Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw byddaf yn lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau statudol drafft ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.
Mae teuluoedd yn wynebu llawer o gostau gwahanol sy’n gysylltiedig â gwisg ysgol a gweithgareddau y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Mae’r Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn ganolog i’r broses o gynorthwyo teuluoedd gyda’r costau hyn. Mae’n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gost gwisg ysgol, a chostau cyfarpar, dillad chwaraeon a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.
Er mwyn cefnogi’r Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad a chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau effeithiol ynglŷn â’u polisïau gwisg ysgol, rwyf eisiau cyflwyno canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.
Nod y canllawiau newydd yw hyrwyddo agwedd fwy cyson, ym mhob ysgol yng Nghymru, tuag at fforddiadwyedd gwisgoedd ysgol. Byddant yn disodli’r canllawiau anstatudol presennol ac yn dod i rym ym mis Medi 2019.
Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd ac yn mynd i’r afael â nifer o faterion y dylid eu hystyried wrth ddatblygu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, fel eitemau gwisg niwtral o ran y rhywiau a hyblygrwydd yn ystod amodau tywydd eithafol.
Rwy’n croesawu ac yn edrych ymlaen at safbwyntiau ar y ddogfen ymgynghori, sydd ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-cyrff-llywodraethu-ysgolion-ar-bolisiau-gwisg-ysgol-ac-edrychiad-disgyblion Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 21 Chwefror 2019.