Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n rhoi pleser mawr i mi gyhoeddi fy mod i heddiw’n lansio ymgynghoriad ar faes dw i’n ymddiddori’n fawr ynddo, sef seilwaith ieithyddol y Gymraeg.

Mae ‘Seilwaith ieithyddol’ yn cynnwys pethau sy’n ein helpu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd – y brics a’r morter fel corpora, geiriaduron ac adnoddau terminoleg, a’r holl waith ymchwil a safoni sy’n mynd ymlaen er mwyn galluogi’r adnoddau hyn i dyfu a datblygu. Y dyddiau hyn, mae nifer fawr ohonon ni’n defnyddio’r rhain ar-lein.

Mae sôn wedi bod ers blynyddoedd am yr angen i gydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg yn well, a pheth amser yn ôl fe wnes i gynnal seminar yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol (yn y dyddiau hynny pan oedden ni gyd yn gallu cerdded y maes) er mwyn trafod sut mae symud pethau yn eu blaenau. Bryd hynny fe wnes i wrando ar farn pobl, yn ddarparwyr ar y naill law ac yn unigolion sy’n defnyddio’r adnoddau hyn o ddydd i ddydd ar y llaw arall. Fe wnaeth nifer o ddefnyddwyr roi gwybod i mi, os ydych chi’n siarad Cymraeg ac eisiau gwybod beth yw ystyr gair, neu beth yw’r cyfieithiad ohono, y gall cael gafael ar ateb fod ychydig yn gymhleth.

Eu neges glir oedd bod angen gwell cydlynu rhwng yr holl elfennau er mwyn gwella’r ddarpariaeth i ddefnyddwyr, boed yn aelodau’r cyhoedd, yn gyfieithwyr, yn bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, yn athrawon, yn blant ysgol a’u rhieni, a phawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd. Fe wnes i glywed bod angen osgoi dyblygu, sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu defnyddio i’r eithaf, a bod angen ymateb strategol i wahanol anghenion isadeiledd. Fe wnes i hefyd glywed ei bod yn hollbwysig rhoi’r maes ar sylfaen hirdymor, a rhoi sicrwydd yn y dyfodol i brosiectau seilwaith allweddol.

Pan fyddwn ni’n sôn am gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a chynyddu’r defnydd ohoni, rydyn ni’n sôn am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu defnyddio’r iaith yn hyderus heb rwystr. Mae hynny’n golygu gallu dod o hyd i wybodaeth drwy’r Gymraeg, ac am y Gymraeg, heb orfod mynd i chwilio, a heb orfod cymryd camau ychwanegol o’u cymharu â phobl sy’n ceisio gwneud yr un peth yn Saesneg. Rhaid i ni felly roi’r defnyddiwr yn gyntaf, a’i gwneud mor hawdd ag sy’n bosibl i bawb wybod ble i fynd er mwyn cael gwybodaeth a chyngor.

Dydy hynny ddim i ddweud nad oes gennym ni lawer o brosiectau o’r ansawdd uchaf yng Nghymru a allai helpu pob un ohonom ni sy’n defnyddio’r Gymraeg. Er enghraifft, mae Geiriadur Prifysgol Cymru – sy’n dathlu ei ganmlwyddiant eleni – wedi datblygu i fod yn sylfaen ar gyfer yr holl waith arall ar eiriau a thermau yng Nghymru. Mae adnoddau terminoleg fel Porth Termau Prifysgol Bangor, a BydTermCymru yn Llywodraeth Cymru, yn ymateb i fylchau yn y ddarpariaeth a’r galw am dermau cyfoes. Ond ymatebol yw’r maes o hyd, gyda thermau’n cael eu comisiynu os bydd galw mawr, a neb yn cadw llygad strategol, lefel uchel ar anghenion y dyfodol.   

Dros y misoedd diwethaf, felly, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r prif ddarparwyr hyn, ac eraill, i ddatblygu’r cynigion sydd yn y ddogfen ymgynghori. Ei nod yw cynnig cyfeiriad strategol tymor hir i’r maes pwysig hwn, a gwella sut mae’r gwahanol elfennau’n gweithio gyda’i gilydd er budd siaradwyr Cymraeg ym mhobman, ac o bob gallu. Nawr rydyn ni am glywed gan gymaint o bobl â phosib, beth bynnag yw eu profiad o ddefnyddio’r Gymraeg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed adborth a syniadau fydd yn ein helpu i ddatblygu’r polisi gorau posibl. 

Ein prif gynigion yw creu un rhyngwyneb er mwyn sicrhau bod modd chwilio’n hawdd ar draws gwahanol adnoddau, pa bynnag declyn rydych chi’n ei ddefnyddio i chwilio, a chreu uned newydd i gydlynu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. O wneud y pethau hyn yn iawn, rydyn ni’n hyderus bod potensial i wella’r ddarpariaeth i bawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg. 

Mae’n bwysig iawn pwysleisio mai nod y ddogfen hon yw adeiladu ar seiliau sydd wedi eu gosod yn barod, nid dechrau o’r dechrau. Mae’r rhan fwyaf o’r cydrannau eisoes yn bodoli – yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn y ddogfen ymgynghori yw cynnig ffyrdd o’u cydlynu a’u darparu mewn ffordd resymegol ac effeithiol, gan ychwanegu’r elfen ragweithiol o sganio’r gorwel a chynllunio strategol.

Mae nifer o’n cynigion hefyd yn clymu i mewn gyda Chynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o gefnogi’r iaith er mwyn iddi gael ei defnyddio mewn cynifer o sefyllfaoedd â phosib. Bydd ein hymdrechion gyda’r polisi seilwaith newydd hwn yn helpu i gyfoethogi profiad y rheini sy’n defnyddio technoleg yn Gymraeg. Ein nod yw darparu, yn rhad ac am ddim, fersiynau digidol o adnoddau awdurdodol ar gyfer pawb sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd.  

Rydyn ni eisoes wedi sefydlu Panel Safoni’r Gymraeg i ddechrau cysoni sut mae rhai geiriau’n cael eu sillafu. Mae hynny’n ddechrau da ar waith sydd dirfawr angen ailgydio ynddo. Bydd yr hyn sy’n dod nesaf yn cael ei lywio gan yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Dw i’n ddiolchgar iawn i’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi ein cynghori ar hyd y daith hyd yn hyn – gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyfieithwyr Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, yr Uned Termau a Thechnolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, a Geiriadur Prifysgol Cymru. Byddwn yn parhau i drafod gyda nhw wrth i ni ddatblygu’r polisi terfynol yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad.    

Cymraeg: https://llyw.cymru/polisi-cenedlaethol-seilwaith-ieithyddol-y-gymraeg