Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ganolog i uchelgais Llywodraeth Cymru ar ran cymdeithas Cymru mae cydraddoldeb i bawb.Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad i holi eich barn am Amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y pedair blynedd nesaf, hyd 31 Mawrth 2024.

Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cwmpasu ystod o gamau i'w cymryd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcanion. Bob pedair blynedd, mae Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar yr amcanion hyn i sicrhau eu bod yn dal yn ystyrlon, yn cyflawni eu diben ac yn gyfredol. Mae'r amcanion hyn yn ategu'r nodau hirdymor ar gyfer ein cymdeithas sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i bedair blynedd yr Amcanion Cydraddoldeb Strategol ac yn ystyried y cenedlaethau sydd i ddod.

Rydym am glywed safbwyntiau cymaint o bobl â phosibl. Yn benodol, rydym am glywed gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ynghyd â chyrff ac unigolion eraill sydd â diddordeb. Bydd y safbwyntiau hyn yn sicrhau bod yr Amcanion Cydraddoldeb Strategol, a fydd yn ganolog i Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol 2020-2024, yn cael eu datblygu drwy ystyried persbectif cymaint o bobl â phosibl.

Bydd y camau a gymerir yn y pen draw, felly, yn seiliedig ar y canlyniadau iawn ac yn deillio o anghenion a dymuniadau pobl Cymru, gan roi'r lle canolog i unigolion a llefydd yn y gwasanaethau a ddarparwn ac a gyllidwn.