Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn hysbysu’r Aelodau am achos difrifol y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi’i nodi, sef bod gweithiwr gofal iechyd sydd wedi ymddeol wedi cael diagnosis o Hepatitis C. Roedd prif gyflogaeth y gweithiwr gofal iechyd yng Nghymru rhwng mis Mai 1984 a mis Gorffennaf 2003 yn Ysbyty Glowyr Dosbarth Caerffili, ond hefyd am gyfnod byr yn hen Ysbyty Dwyrain Morgannwg (28 Mai 1984 – 17 Gorffennaf 1984) ac yn Ysbyty Maelor Wrecsam (15 Mai 1978 – 27 Mehefin 1978). Yn ystod gyrfa’r gweithiwr gofal iechyd, treuliodd amser hefyd yn gweithio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Hyd yn hyn, mae dau glaf yng Nghymru wedi’u nodi â Hepatitis C, ac rydyn ni'n gwybod bod y gweithiwr gofal iechyd wedi trosglwyddo’r haint.
Gofynnwyd am gyngor gan Banel Cynghori’r DU ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sydd wedi’u heintio â feirysau a gludir yn y gwaed (UKAP) ynghylch sut i ymdrin â’r achos hwn. Cyngor UKAP oedd y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gynnal ymarfer adolygu a phennu Tîm Rheoli Achos. Yn ystod yr ymarfer adolygu, cafodd nifer sylweddol o nodiadau achos eu lleoli a’u hadolygu i adnabod y cleifion hynny a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r haint hwn. Mae Ymarfer Hysbysu Cleifion wedi cael ei sefydlu o dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn ogystal ag ymdrin â’r ardal leol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydgysylltu’r ymateb ar gyfer cleifion Byrddau Iechyd Cwm Taf a Betsi Cadwaladr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ysgrifennu at o leiaf 3,000 o gleifion yr wythnos hon, a 2,000 yn rhagor o gleifion yr wythnos nesaf. Nodwyd fod y cleifion hyn yn sicr neu o bosibl wedi cael triniaethau penodol gan y gweithiwr gofal iechyd. Mae’r mwyafrif helaeth o’r rhain yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda nifer fechan yn ardaloedd Byrddau Iechyd Cwm Taf a Betsi Cadwaladr. Os yw cleifion wedi symud o’r ardaloedd hyn, mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gysylltu â nhw.
Mae gwasanaeth cwnsela a chynghori’n cael ei gynnig i’r bobl sy’n cael llythyr ar y camau nesaf i’w cymryd. Mae manylion yn y llythyr ynghylch llinell gymorth sy’n cael ei ateb gan unigolion sydd wedi’u hyfforddi. Mae clinigau wedi cael eu sefydlu i roi profion i’r unigolion hyn a bydd apwyntiadau’n cael eu trefnu drwy’r llinell gymorth. Mae Galw Iechyd Cymru, ar 0845 46 47, yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth cyffredinol i’r rheini sy’n pryderu, ond sydd heb gael eu nodi drwy’r Ymarfer Hysbysu Cleifion.
Mae UKAP yn cynghori ar ymateb Cymru fel rhan o waith ledled y DU. Efallai y byddwn yn cysylltu â rhagor o gleifion yng ngoleuni cyngor pellach ar gategorïau risg. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynorthwyo â phob agwedd ar yr ymateb.
Nid ydym yn cyhoeddi manylion y gweithiwr gofal iechyd. Mae’n hynod o bwysig bod yr holl gleifion sydd wedi’u heintio â Hepatitis C (gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd) yn cael yr un hawl i gyfrinachedd ag unrhyw glaf arall sy’n ceisio neu’n cael gofal meddygol. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi’u heintio â Hepatitis C, nid oedd gan y gweithiwr iechyd unrhyw symptomau ac nid oedd yn ymwybodol o’r haint tan ymddeoliad. Cyn gynted ag y cadarnhawyd fod yr haint wedi cael ei drosglwyddo, dechreuwyd ymateb i’r achos.
Ers 2007, dylid rhoi prawf Hepatitis C i’r holl weithwyr gofal iechyd sy’n dechrau yn y GIG, a dylai unrhyw un sy’n rhoi triniaethau llawfeddygol am y tro cyntaf (Exposure Prone Procedures yw’r enw Saesneg ar y rhain) gael prawf Hepatitis C gan yr Ymddiriedolaeth neu’r Bwrdd Iechyd sy’n eu cyflogi.
Hoffwn bwysleisio mai isel yw’r perygl o gael yr haint, ac rydyn ni’n cynnig profion i fod yn gwbl ddiogel. Mae gan gyn lleied ag 1 o bob 250 o bobl yn y DU yr haint Hepatitis C, ac nid yw o reidrwydd yn arwain at broblemau iechyd. Mae’n bwysig nodi pobl sydd efallai wedi’u heintio oherwydd gall triniaeth wella’r haint mewn hyd at 80% o achosion.
Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i aelodau a staff yng ngweinyddiaethau a gwasanaethau iechyd eraill y DU am eu cydweithrediad wrth ymdrin â’r achos hwn.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fodlon gwneud hynny.