Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gen i gyhoeddi i Aelodau’r Senedd bod y trenau trydan Dosbarth 756 newydd sbon wedi dechrau rhedeg ar Linellau Craidd y Cymoedd. Mae hyn yn rhan o’n buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd yng Nghymru. 

Dyma’r trenau ‘3-modd’ trydan i gael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig. Mae’r trenau Dosbarth 756 hyn yn fodern ac wedi’u hadeiladu gan gwmni Stadler.  Maen nhw’n cael eu pweru gan y gwifrau trydan uwchben gafodd eu gosod fel rhan o’n cynlluniau i weddnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r trenau’n fwy cyfforddus, yn gallu cludo mwy o deithwyr ac yn fwy hygyrch. Mae ganddyn nhw WiFi a sgriniau gwybodaeth modern i gwsmeriaid. 

Bydd y trenau Dosbarth 756 newydd yn cael eu cyflwyno fesul cam. Yn gyntaf ar linellau Aberdâr a Merthyr ac yna ar linell Treherbert yn y flwyddyn nesaf. Y disgwyl yw y bydd un deg pedwar yn rhedeg erbyn gwanwyn flwyddyn nesaf. 

Dyma garreg filltir bwysig yn ein gwaith i wella Llinellau Craidd y Cymoedd a darparu gwasanaeth metro ‘cyrraedd-a-mynd’. Rydym wedi gweddnewid y profiad i deithwyr gyda gwasanaethau amlach a chyflymach mewn trenau newydd sbon.