Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi lansio'r prosiect “Symud Ymlaen”.

Mae Symud Ymlaen yn brosiect gwerth £3.4 mil dros ddwy flynedd fydd yn cynnig lleoliadau gwaith cyflogedig i bobl ifanc rhwng 16-18 mlwydd oed sydd wedi troseddu a phobl ifanc sy'n gadael gofal sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.  Ariennir Symud Ymlaen  drwy gyllid Cyfrifon Segur* sydd wedi'i neilltuo i Gymru a'i weinyddu gan Gronfa'r Loteri Fawr.  

Mae Symud Ymlaen yn brosiect partneriaeth, o dan arweiniad Llamau, sy'n rhoi mwy o fynediad i bobl ifanc sydd wedi troseddu a'r rhai sy'n gadael y system ofal i waith a hyfforddiant.  

Mae Symud Ymlaen yn cynnig lleoliad gwaith 26 wythnos i bobl ifanc sydd wedi troseddu a'r rhai sy'n gadael gofal, gydag amrywiol gyflogwyr ledled Cymru, gyda'r nod y bydd y cyflogwr yn parhau i'w cyflogi wedi i'r lleoliad ddod i ben.  I bobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol, bydd y prosiect yn rhoi hyfforddiant pwrpasol mewn Llythrennedd, Rhifedd a TGCh yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol.  Bydd pob person ifanc sydd wedi cofrestru ar y prosiect yn derbyn mentor a chynllun datblygu personol.  Partneriaid Symud Ymlaen yw  Llamau (Prif sefydliad), CBSA Cymru, Sova, Construction Youth Trust a Gisda.

Natur sylfaenol Symud Ymlaen yw rhoi cyfleoedd gwaith cyflogedig gwirioneddol - nid dim ond profiad gwaith - a gwneud y mwyaf o gyfleoedd person ifanc i wneud y gorau o'r cyfle hwnnw i fynd ymlaen i waith parhaol.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn parhau i ddangos bod diweithdra ieuenctid yn uchel iawn o hyd - yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU.  Fodd bynnag, mae ein hystadegau swyddogol diweddaraf yn galonogol, ar nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.  Mae cyfradd y bobl ifanc rhwng 16-18 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant wedi gostwng 2 y cant rhwng 2011  a  2012.  Fodd bynnag, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau - rydym yn gwybod mai'r wobr wirioneddol yw cael gostyngiad cynaliadwy dros gyfnod o amser.  Mae hyn yn elfen allweddol yn ein Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi ac yn ein Cynllun Gweithredu Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.    

Bydd Symud Ymlaen yn ategu rhaglenni cenedlaethol Llywodraeth Cymru.  Wrth i'n rhaglen Twf Swyddi Cymru helpu pobl ifanc sy'n barod am waith i gael gwaith cynaliadwy, rydym yn gwybod ei bod yn anoddach ac yn fwy o her i rai pobl ifanc gael cyfle am waith, ac efallai y byddant angen cymorth ychwanegol i gael swydd.    

Mae rhai pobl ifanc wedi profi bywydau mwy heriol sydd wedi ei gwneud yn anodd iddynt gael swydd neu i barhau i hyfforddiant pellach.  Nid oes gan y bobl ifanc hyn yn aml y sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen arnynt i gael ac i gadw cyfleoedd gyda chyflogwyr.  Ac wrth gwrs, mae cyflogwyr am gael gweithwyr sydd â rhywfaint o brofiad gwaith.  Mae'n aml yn anodd dianc o'r sefyllfa.  Mae'r grŵp y mae Symud Ymlaen yn ei dargedu - pobl ifanc mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a phobl ifanc sydd wedi troseddu, - yn aml yn syrthio i'r categori hwn.  

Dim ond nifer cyfyngedig o brosiectau a rhaglenni sy'n benodol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal a phobl ifanc sydd wedi troseddu.  Mae Symud Ymlaen yn gyfle gwych felly.  Bydd Llywodraeth Cymru a'r Loteri FAWR yn awyddus i werthuso'r prosiect a phenderfynu a yw'n cynnig model effeithiol y gellir ei atgynhyrchu i helpu grwpiau eraill o bobl ifanc.   Hefyd, bydd gan y rhai sy'n cynnig ymyriadau cyflogaeth tebyg ddiddordeb mawr mewn unrhyw arfer da sy'n deillio o'r prosiect.  


*Ym mis Tachwedd 2007, cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil i'r Senedd, oedd yn pennu'r cynigion am gynllun newydd i alluogi arian sydd mewn cyfrifon 'segur' mewn banciau a chymdeithasau adeiladu i gael eu hail-fuddsoddi mewn cymunedau lleol.  Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo dau flaenoriaeth gwariant ar gyfer y Cynllun Cyfrifon Segur (DAS)yng Nghymru:

(i) Helpu plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial yn llawn drwy weithio drwy'r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol; a
(ii) Mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ehangach drwy weithio yn y gymuned.

Caiff cyllid y Cyfrifon Segur ei weinyddu gan Gronfa'r Loteri Fawr.