Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus

Heddiw, rwy’n lansio Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Cytunodd y Cabinet ar y Strategaeth ar 6 Ionawr, ac mae’n garreg filltir bwysig yn yr ymgyrch i wella amrywiaeth ymysg arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru. Er i’r sefyllfa wella yn ystod y blynyddoedd diwethaf - er enghraifft yn 2018-19, menywod oedd 63.5% o holl benodiadau ac ail-benodiadau Gweinidogion yng Nghymru - mae angen diwygio’r dull gweithredu er mwyn gwella amrywiaeth ymysg ein harweinwyr cyhoeddus ac yn enwedig, i benodi mwy o bobl dduon ac Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig, yn ogystal â phobl anabl.

Mae’r Strategaeth yn amlinellu’r achos dros wella amrywiaeth a chynhwysiant mewn penodiadau cyhoeddus, a’r bwriad yw adeiladu ar y gwaith da y mae’r Byrddau eisoes wedi ei wneud. Yn gyffredinol, mae pum nod, sef:

  • gwella sut mae data (yn enwedig data amrywiaeth) yn cael eu casglu a’u dadansoddi;
  • creu cyflenwad cadarn o aelodau Bwrdd posibl;
  • sicrhau bod yr arferion recriwtio yn agored a thryloyw, ac o bosibl bod mathau newydd o brosesau asesu yn cael eu defnyddio ar gyfer penodiadau cyhoeddus;
  • gwneud yn siŵr bod holl aelodau Bwrdd yn fedrus ac yn hyddysg ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn enwedig mewn perthynas â’u rôl;
  • cryfhau arweinyddiaeth mewn perthynas â chynhwysiant ac amrywiaeth.

Er bod y Strategaeth hon yn canolbwyntio ar Fyrddau a reoleiddir, mae gobaith a bwriad y bydd yn annog cyrff nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, ac eraill, i fabwysiadu arferion da. Nod y Strategaeth yw cynyddu nifer yr aelodau o grwpiau a warchodir sy’n gwasanaethu ar Fyrddau, ac mae hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant gwirioneddol i bob un ohonynt, er mwyn iddynt allu cyfrannu’n llawn a defnyddio eu talentau unigryw. Rwy’n gobeithio y gallwn wella a chryfhau’r broses benderfynu drwy sicrhau amrywiaeth ar Fyrddau a fyddai’n gwneud cyfoeth o brofiadau bywyd go iawn yn rhan o’r broses honno. Mae’r Strategaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/strategaeth-amrywiaeth-chynhwysiant-ar-gyfer-penodiadau-cyhoeddus