Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Rwyf heddiw wedi lansio Siarter Budd-daliadau Cymru, sydd wrth wraidd ein gwaith i ddatblygu system fudd-daliadau i Gymru sy'n dangos trugaredd, sy'n symlach ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae hwn yn un o'r prif ymrwymiadau yn ein Strategaeth Tlodi Plant, a fydd yn cael ei lansio yfory (23 Ionawr).
Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cymorth ariannol sydd ar gael iddynt gan Lywodraeth Cymru a gwella'r profiad cyffredinol o geisio cael at y cymorth hwnnw. Er mwyn rhoi ymrwymiadau'r siarter ar waith, sefydlwyd grŵp llywio allanol dan gadeiryddiaeth Fran Targett.
Mae gwella system fudd-daliadau Cymru yn rhan o ymrwymiad Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gefnogi datganoli gweinyddiaeth lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer cyflawni hyn.
Ymwelais â Chanolfan Adnoddau Blaenafon yn Nhorfaen heddiw gyda'r Aelod Dynodedig dros y Cytundeb Cydweithio, Sian Gwenllian ac Arweinydd Cyngor Torfaen, Anthony Hunt, i lansio Siarter Budd-daliadau Cymru.
Rwy’n bwriadu gwneud datganiad i’r Senedd ynghylch Siarter Budd-daliadau Cymru y mis nesaf.