Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn ychydig fisoedd, rydym wedi gweld cymdeithas yn newid o ganlyniad i’r Coronafeirws. Mae'n parhau i gael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau, gan greu heriau newydd a gwaethygu pwysau presennol. Mae gwaith ymchwil yn ein helpu i ddeall y bydd y pandemig yn effeithio ar les meddyliol ac emosiynol llawer o bobl, ac mae hyn yn debygol o fod yn arbennig o wir yn achos plant a phobl ifanc (Troednodyn 1). Mae pobl o bob oed yn gorfod wynebu sefyllfaoedd newydd a set newydd o bryderon a gofidiau nad oeddent wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Gan gydnabod bod llawer o bobl ifanc yn gweld y sefyllfa bresennol yn heriol, ac i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym wedi llunio adnodd ar-lein sy’n hyrwyddo’r adnoddau digidol niferus sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant emosiynol eu hunain. Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc 11 i 25 oed â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy i feithrin gwytnwch ac i’w cefnogi drwy bandemig y Coronafeirws a thu hwnt. Mae’r dyluniad syml yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr gymryd yr awenau a rheoli eu hiechyd meddwl drwy gyfrwng sy’n gweddu iddyn nhw. Mae gwybodaeth, hunan-gymorth a chyngor ynghylch sut i fynd ati i gael rhagor o gefnogaeth wedi’i blethu ynddo drwyddo draw.

Mae’r Pecyn Cymorth ar gael ar blatfform addysgol Hwb a gall unrhyw un ei ddefnyddio boed o glicio ar ddolen allanol neu drwy bori ar Hwb ei hun. Mae’r pecyn yn cynnwys chwe categori o’r problemau mwyaf cyffredin sy’n cael effaith ar bobl ifanc ar hyn o bryd: Coronafeirws a’ch llesiant, Cadw’n Iach, Gorbryder, Hwyliau Isel, Profedigaeth a cholled ac Argyfwng. Mae gan bob un ohonynt ei set bwrpasol ei hyn o ddolenni at adnoddau digidol.  Mae'r amrywiaeth eang sydd ar gael yn golygu bod rhywbeth i bawb, boed yn ap gan y GIG, gwefan yn Gymraeg, neu glust i wrando ar linell gymorth. Datblygwyd y Pecyn gyda chymorth clinigwyr a phobl ifanc, ac rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu cyfraniad.

Dros amser, bydd y Pecyn yn cael ei ddiweddaru i gydweddu ag anghenion plant a phobl ifanc wrth i'r sefyllfa o ran y Coronafeirws esblygu, er mwyn sicrhau bod adnoddau'n parhau i fod yn berthnasol nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn gwneud hynny’n bosibl, byddwn yn parhau i gasglu adborth gan blant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg.

[1] Holmes et al, (2020)  Multidisciplinary research priorities for the COVID-19 pandemic: a call for action for mental health science