Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd y cynllun 10 mlynedd, Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach, ei gyhoeddi yn 2019 ac mae’n nodi sut mae angen i wasanaethau newid a sut mae angen i'r gweithlu ddatblygu i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru.
Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi bod yn adolygu’r cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud yn erbyn y 15 o nodau a bennwyd ar gyfer 2022, ac mae wedi bod yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y maes fferylliaeth i adnewyddu’r weledigaeth, ac i bennu nodau newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Mae’r nodau newydd, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, yn disgrifio’r disgwyliadau o ran y gwaith pellach y gellir ei gyflawni erbyn 2025 drwy gydweithio. Mae’r nodau’n rhai uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar bobl, ac maent wedi eu cynllunio i fanteisio ar gyfraniadau gan bob aelod o’r tîm fferylliaeth ym mhob lleoliad gofal.
Rydym yn parhau i weithio tuag at y dyheadau gwreiddiol a nodwyd yn Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach:
- Gwella profiad y claf,
- Datblygu’r gweithlu,
- Darparu gofal fferyllol di-dor,
- Manteisio i’r eithaf ar arloesi a thechnoleg wrth gyflawni ein hamcanion.
Gwelwyd cynnydd rhagorol o ran gweithredu’r dyheadau hyn ym mhob sector ymarfer fferyllol. Ers cyflwyno ein trefniadau contractiol newydd ar gyfer fferylliaeth gymunedol, a ddisgrifiwyd yn Presgripsiwn Newydd y llynedd, rydym yn gweithredu i sicrhau cysondeb wrth i fferyllfeydd cymunedol ddarparu’r ystod eang o wasanaethau clinigol y mae eu hangen ar bobl Cymru a’r GIG yng Nghymru.
Mae oddeutu un o bob pump o fferyllfeydd cymunedol bellach yn darparu ein gwasanaeth rhagnodi fferyllol annibynnol, sy’n cynnig mynediad prydlon at driniaethau am amrywiaeth o gyflyrau, a darpariaeth atal cenhedlu rheolaidd. Rydym yn gweithio i gynyddu hyn fel bod y gwasanaeth ar gael mewn un o bob tair o fferyllfeydd erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae gweithwyr fferylliaeth proffesiynol yn chwarae rôl hanfodol yn ein hysbytai a’n practisau meddygon teulu, ac yn ddiweddar rydym wedi comisiynu’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i adolygu sut y gellid defnyddio sgiliau clinigol fferyllwyr, rhagnodwyr fferyllol, a’r gweithlu fferylliaeth ehangach yn effeithiol mewn lleoliadau ysbyty er mwyn gwella canlyniadau iechyd pobl.
Mae’r nodau newydd yn golygu y bydd timau fferylliaeth wedi cael eu grymuso erbyn 2025 i sicrhau bod pob cysylltiad â’r claf yn cyfrif: drwy adeiladu ar gryfderau fferyllfeydd cymunedol fel asedau cymunedol, ac fel ffynonellau cyfalaf cymdeithasol a mynediad cyfleus at y gwasanaethau sydd eu hangen ar ein pobl.
Drwy barhau i gynyddu gallu a sgiliau o fewn timau fferylliaeth, byddwn hefyd yn sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyson at aelodau o’r gweithlu fferylliaeth ymroddgar sydd wedi ei hyfforddi i lefel uchel.
Drwy sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau gweithwyr fferylliaeth proffesiynol yn cyrraedd y lefel uchaf bosibl yn eu rôl fel arbenigwyr meddyginiaethau, gallwn sicrhau hefyd eu bod yn rhan annatod o’r gefnogaeth a roddir i bobl wrth iddynt symud hwng y gwahanol rannau o’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy gynyddu’r defnydd o awtomatiaeth, bydd yn bosibl cynyddu’r gallu sydd gan weithwyr fferylliaeth proffesiynol i ddarparu gofal o safon ragorol, a thrwy ddefnyddio ap y GIG, bydd timau fferylliaeth yn gweithio gyda chleifion i sicrhau eu bod yn cael mwy o reolaeth ar eu hiechyd a’u meddyginiaethau.
Mae llawer iawn wedi ei gyflawni eisoes. Wrth inni gychwyn ar gam nesaf y daith hon, bydd gweithwyr fferylliaeth proffesiynol yn cyflawni hyd yn oed mwy dros y tair blynedd nesaf. Felly mae’n bleser gennyf gymeradwyo cynlluniau diweddaraf y proffesiwn fferylliaeth.
Fferylliaeth: Sicrhau Cymru iachach (rpharms.com)
Nodau 2025 Taflen Gweledigaeth Cymru.pdf (rpharms.com)