Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi y dyddiad lansio o 3 Mehefin ar gyfer Cynllun NewBuy Cymru.
Bydd NewBuy Cymru, cynllun gwarantu morgais, yn cynorthwyo hyd at 3,000 o gartrefi yng Nghymru i fodloni’r meini prawf am forgais sy’n cael eu nodi gan fenthycwyr. Bydd yn caniatáu morgeisi benthyciad uchel i werth o hyd at 95% gan ddefnyddio model rhannu o warantïau gan adeiladwyr tai yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Bydd yn helpu prynwyr tai posib, y rhai sy’n prynu eu tai cyntaf yn ogystal â’r rhai hynny sy’n gobeithio symud i dai gwell i brynu cartrefi sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd hyd at bris o £250,000, gydag dim ond 5% o ernes.