Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt Gweinidog Cyllid & Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rydym yn lansio’r Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus yn ffurfiol – dyma wasanaeth newydd a fydd yn rheoli contractau caffael a fframweithiau caffael ar draws Cymru i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n wasanaeth cyhoeddus arloesol o bwys a fydd yn cynnig gwell effeithlonrwydd ac arbedion i’w aelodau drwy sicrhau cytundebau cenedlaethol am ystod eang o nwyddau a gwasanaethau sy’n gyffredin i’r rhan helaeth o’r sector cyhoeddus, os nad y sector cyhoeddus cyfan.

Cylch gwaith y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus fydd sefydlu ffyrdd mwy effeithlon o weithio, sydd yn ei hanfod yn golygu gwneud pethau’n wahanol. Bydd hyn yn golygu amryw o bethau ym maes caffael, gan gynnwys mwy o bwyslais ar fanteision i’r gymuned a chyflogi gweithlu lleol. Datblygu consortia neu drefniadau ar y cyd rhwng busnesau yng Nghymru a all gydag amser helpu i BBaChau dyfu, mynd i’r afael â gwasanaethau costus a gwastraff, a chadwyn gyflenwi well a chyflymach er budd gwerthwyr, prynwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd.

Byddwn yn lansio’r Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus yn ffurfiol yn y Rhondda sy’n dangos gweithio ar y cyd ar waith. Mae Vision Products ym Mhont-y-clun yn storio, yn ailwampio ac yn dosbarthu cyfarpar i bobl anabl. Hefyd, mae ganddynt ochr arall i’r busnes sy’n hollol ar wahân, sef gosod ffenestri a drysau UPVC o ansawdd uchel. Mae’r cwmni, o dan gytundeb rhwng y GIG, Gwerth Cymru, a nifer o awdurdodau lleol, yn darparu gwasanaeth sy’n cynnig llawer mwy na’r hyn a gafwyd o dan y cytundeb blaenorol. Mae’n cyflenwi’r cynnyrch iawn y tro cyntaf i bobl anabl, diolch i’r model o fflat wedi’i addasu gyda chyfarpar ac mae’r eitemau’n cael eu hanfon yn gyflym. Mae’r prosesau’n fwy cynaliadwy, diolch i’r adran ailgylchu, telir anfonebau’n gynt a thros y ddwy flynedd diwethaf maent wedi arbed tua 27% y flwyddyn. Mae’r cwmni yn esiampl dda ym maes hyfforddi a datblygu staff. O’r 100 aelod o staff, mae dwy ran o dair o’r rhai sy’n gweithio yn y siop ym Mhont-y-clun yn anabl, ac mae’r cwmni wedi ei ganmol o ran ei arferion da yn mentora a hyfforddi gweithwyr.

Bydd y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus mewn sefyllfa i allu edrych ar sut y mae arian yn cael ei wario yng Nghymru. Ar lefel fwy strategol, gall ystyried pam ein bod yn gwario’r arian hwnnw, a sut y gallwn wneud pethau’n wahanol os oes ffordd well o wneud pethau.

Rhoddwyd y cyfrifoldeb o gynnal y gwasanaeth i Lywodraeth Cymru, a hynny wedi cystadleuaeth deg ac agored, ac mae’r Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus yn atebol i Fwrdd y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus sy’n cynnwys rhanddeiliaid.  Mae rhyw 76 o aelod-sefydliadau wedi cytuno i ddefnyddio’r gwasanaeth, gan gynnwys yr holl Awdurdodau Lleol, GIG Cymru, pob Sefydliad Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru, pob Gwasanaeth Heddlu a Gwasanaeth Tân, naw Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru ei hun a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus, o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, wedi hyrwyddo caffael ar y cyd yng Nghymru fel rhan o’i waith i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon. Datblygodd ei ffrwd waith caffael achos busnes cryf yn cefnogi creu ffordd o brynu nwyddau cyffredin a nwyddau dro ar ôl tro ‘unwaith ar gyfer Cymru’.

Y llynedd, rhestrodd adolygiad John McClelland, “Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru” lawer o argymhellion defnyddiol, gan gynnwys cefnogaeth i Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae Mr McClelland yn gwneud adolygiad pellach o drefniadau sefydliadol gwasanaethau caffael yn Llywodraeth Cymru a thu hwnt, a bydd yn adrodd yn ôl i’r Gweinidogion maes o law.

Mae’n rhaid bod yn glir ynghylch y gwahaniaeth rhwng Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus. Mae Gwerth Cymru yn gyfrifol am symud ymlaen â’r agenda polisi caffael, cynnal gwiriadau ffitrwydd ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, sicrhau bod gofynion yr UE yn cael eu mabwysiadu, ac yn parhau i reoli gwefan GwerthwchiGymru, lle mae contractau’r sector cyhoeddus yn cael eu hysbysebu. Mae’r Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus yn gyfrifol am gyflenwi contractau a fframweithiau caffael i’w aelodau a bydd yn mabwysiadu dull rheoli categori i’r meysydd y mae’n ymwneud â hwy.  Mae gan y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus ei wefan ei hun, sy’n cael ei lansio heddiw – www.gcccymru.gov.uk – ac mae’n cynnwys dolenni i wefannau perthnasol fel GwerthwchiGymru.

Rydym yn gwybod bod y setliad gwariant cyhoedd i Gymru yn y dyfodol agos yn heriol iawn. Y gyfrinach ar gyfer llwyddo, felly, yw gallu’r sector cyhoeddus i wneud pethau’n wahanol. Mae newidiadau fel y Gwasanaeth Caffael Cyhoeddus yn hanfodol er mwyn gwneud y mwyaf o’r bunt Gymreig a chyfeirio adnoddau i’r rheng flaen.

Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol sy’n cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi trawsnewid y gwasanaethau cyhoeddus drwy wneud y mwyaf o arbediadau effeithlonrwydd drwy systemau caffael ar y cyd. Mae’n dangos y gall y sector cyhoeddus yng Nghymru gydweithio ar draws ffiniau sefydliadol er mwyn gwneud yr hyn sydd orau i Gymru.