Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau peilot i gefnogi a chyflymu’r defnydd o e-feiciau ac e-feiciau cargo ledled Cymru a chasglu gwybodaeth er mwyn llywio polisi yn y dyfodol.

Mae e-feic yn feic sydd â batri integredig a modur trydan y gellir ei ddefnyddio i helpu’r beiciwr i droi’r pedalau. Mae e-feic cargo yn defnyddio’r un egwyddor ond mae’n cynnig y capasiti i gario llwythi trwm (e.e. >100kg) a swmpus.

Bydd pedair canolfan e-feiciau yn cael eu sefydlu yn y Rhyl, Abertawe, Aberystwyth (gan gynnwys cysylltiadau i’r Drenewydd hefyd) a’r Barri a byddant yn cynnig gwasanaeth llogi e-feiciau am gost isel a benthyca e-feiciau hirdymor i drigolion lleol. Bydd dwy ganolfan fenthyca e-feiciau cargo yn cael eu sefydlu yn Aberystwyth ac Abertawe, sy’n cynnig cyfle i dreialu e-feiciau cargo am ddim, a chyngor a hyfforddiant i fusnesau a thrigolion lleol.

Mae llawer o astudiaethau’n dangos bod e-feiciau yn sicrhau cynnydd o ran teithio llesol. Felly, maent yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, llygredd aer a thagfeydd, gan gynnig manteision iechyd a lles sylweddol i’n cymunedau. At hynny, mae e-feiciau yn helpu i wneud teithio llesol yn opsiwn hygyrch, deniadol a hyfyw ar gyfer mwy o bobl yn y gymdeithas. Mae apêl ehangach i e-feiciau na beiciau confensiynol, gan gynnwys i bobl hŷn a menywod. Hefyd ar gyfartaledd maent yn cael eu defnyddio ar gyfer teithiau hirach na beiciau confensiynol – gan eu gwneud yn arbennig o berthnasol i gymunedau gwledig.

Mae e-feiciau cargo yn cynnig y potensial i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn traffig faniau – sydd wedi cynyddu tua chwarter yng Nghymru ers 2008. Maent yn gallu cael eu defnyddio yn lle faniau ar gyfer teithiau byr, er enghraifft, wrth ddosbarthu’r filltir olaf, ac felly byddant hefyd yn helpu i leihau allyriadau, llygredd aer a thagfeydd yn ein trefi a’n dinasoedd.

Mae cefnogi’r defnydd o e-feiciau ac e-feiciau cargo yn cyd-fynd yn llwyr â’r weledigaeth a amlinellir yn Strategaeth Drafnidiaeth Newydd Cymru, Llwybr Newydd, i greu system drafnidiaeth gynaliadwy a hygyrch.

Bydd Sustrans Cymru yn cydweithio â mentrau cymdeithasol lleol i roi’r cynlluniau peilot hyn ar waith. Byddant yn ymgysylltu â’r rhai sy’n cymryd rhan ac yn defnyddio monitorau sydd wedi’u gosod ar e-feiciau ac e-feiciau cargo i ddatblygu sylfaen dystiolaeth i lywio polisi yn y dyfodol.

Gan ddibynnu ar ganlyniadau’r cynlluniau peilot hyn, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu cymorth pellach i sbarduno’r defnydd o e-feiciau ac e-feiciau cargo yng Nghymru.