Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf hysbysu Aelodau’r Senedd bod ‘Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ wedi cael ei lansio heddiw ar y cyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC). Darparaf gopi o’r Strategaeth gyda’r datganiad ysgrifenedig hwn.
Cafodd AGIC a GCC eu comisiynu i gyd-arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol mewn partneriaeth â GIG Cymru, Llywodraeth Leol, y sector gwirfoddol a’r sector annibynnol yn ogystal â rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol a darparwyr addysg. Mae AGIC a GCC wedi cwblhau’r cam diagnostig ac ymgysylltu, ac wedi gwneud gwaith ymgysylltu eang wedi hynny drwy nifer o sianeli a oedd yn canolbwyntio ar saith thema a chyfres o gamau gweithredu posibl.
Mae'r strategaeth yn arwyddo ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal yn sbardun allweddol ar gyfer gwireddu ein cynllun strategol cenedlaethol cyntaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach. Mae’n darparu fframwaith strategol lefel uchel, sy’n dangos ein huchelgais i werthfawrogi a chefnogi ein gweithlu, gan ymgysylltu â’r gweithwyr a’u cymell drwy arweinyddiaeth ofalgar sy’n rhan annatod o’n system, a’u grymuso i ddatblygu eu sgiliau a’u gallu i ymateb yn gyflym i heriau a chyfleoedd yn y dyfodol. Dyma sut y gallwn ddarparu system iechyd a gofal wedi’i thrawsnewid, ac yn un sy’n gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar les, gofal yn nes at y cartref, ac a fydd yn darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dros amser, bydd y Strategaeth yn cael ei seilio ar gyfres o gynlluniau cyflawni a fydd yn rhoi manylion am y camau gweithredu canolog a fydd eu hangen i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer gweithlu’r dyfodol.
Mae’n iawn ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar yr uchelgais hirdymor hwn, a’i egwyddorion craidd sef arweinyddiaeth ofalgar a ffocws cryf ar iechyd a llesiant, hyd yn oed wrth inni fynd i’r afael â’r heriau mwy uniongyrchol ac anghyffredin yr ydym yn eu hwynebu dros gyfnod y gaeaf. Rydym wedi cytuno y bydd AGIC a GCC yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf mewn cynllun cyflawni sydd wedi’i gynllunio i ategu Cynllun Diogelu’r Gaeaf a’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach wrth i ni symud at gam nesaf ein hymateb i COVID, ac i weithio’n gyflym i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.