Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa newydd, sef y Gronfa Arloesi i Arbed, a fydd yn gweithredu ochr yn ochr â’n cronfa lwyddiannus, Buddsoddi i Arbed.

Mae hon yn fenter bwysig yng nghyd-destun y Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd y mis diwethaf. Ar adeg pan fo cyllidebau’n lleihau, mae newid yn rhywbeth angenrheidiol yn hytrach na ddewisol. Wrth fod adnoddau’n prinhau a’r galw’n cynyddu, rhaid i’r holl wasanaethau cyhoeddus feddwl a gweithio yn wahanol os ydym am barhau i ddarparu gwasanaethau ar y lefel y mae ei hangen ar ein dinasyddion.  

Bydd y gronfa newydd, Arloesi i Arbed, y mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £5m ar ei chyfer, yn galluogi sefydliadau i ymchwilio i syniadau a’u treialu. Nid yw’r gronfa newydd hon yn disodli’r gronfa hynod lwyddiannus, Buddsoddi i Arbed, sydd wedi bod ar waith ers 2009 ac sydd wedi rhoi cymorth i fwy na 160 o brosiectau sydd â gwerth cyfanredol o £157m. Yn ogystal â’r £5m, a fydd ar gael drwy Arloesi i Arbed yn 2017-18, bydd £15m pellach ar gael drwy’r Gronfa Buddsoddi i Arbed.    

Mae Arloesi i Arbed yn bartneriaeth unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Y Lab – sydd ei hunan yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru a’r elusen arloesi, Nesta. Hefyd byddwn yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae hon yn drefniadaeth a fydd yn tynnu ynghyd llywodraeth, sefydliad arloesi arweiniol, sefydliad y mae ei allu ymchwil yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, a’r trydydd sector yng Nghymru.

Bydd y gronfa newydd yn darparu cyllid y mae’n rhaid ei ad-dalu a chyllid nad oes rhaid ei ad-dalu. Bydd yr elfen nad oes rhaid ei had-dalu yn helpu sefydliadau i greu prototeipiau, a’u profi eu mwyn datblygu newidiadau cymhleth ac arloesol i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Bydd Nesta a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n cyflwyno cynigion. Bydd yr adnoddau a’r profiad y byddwn yn tynnu arnynt yn caniatáu inni helpu i ddatblygu amrywiaeth ehangach o brosiectau arloesol nag sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

Bydd yr holl feysydd yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru yn gymwys i wneud cais am gyllid gan y Gronfa Arloesi i Arbed. Rydym yn gobeithio gweld amrywiaeth o brosiectau yn cyflwyno ceisiadau, a fydd yn cynhyrchu arbedion sy’n rhyddhau arian ar gyfer ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau. Dylai’r ceisiadau fod yn rhai a fydd yn gwella canlyniadau i bobl, gan gynnwys gwella ansawdd eu bywyd, a dylent ymdrin â syniadau y gellid eu cyflwyno’n ehangach. Bwriedir iddo fod yn esiampl o sut y gallwn ddefnyddio ymchwil i ddatblygu dulliau gweithredu a ffyrdd o weithio newydd er mwyn creu newid yn y sector cyhoeddus.

Rydym yn gobeithio cael mwy o brofiad o ran pa ymyriadau cymhleth sy’n gweithio a pha rai nad ydynt yn gweithio, er mwyn meithrin dealltwriaeth yn eu cylch. Defnyddir y gwersi a ddysgir o bob prosiect i lywio syniadau yn y dyfodol, a byddwn yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth berthnasol ar gael yn rhwydd.  

Bydd cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau partner yn dechrau gwaith ar y gronfa newydd ar unwaith. Byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad ynghylch unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.