Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Cronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol ar gyfer grantiau cyfalaf ar agor i geisiadau heddiw am bedair wythnos.
Bydd y Gronfa Grantiau Cyfalaf yn cynnal prosiectau sy’n cyflawni’r amcanion a’r camau gweithredu mewn perthynas â Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a bennir yn y Cynllun Gweithredu a'n hymrwymiadau penodol yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd y Gronfa’n cefnogi prosiectau cyfalaf sydd â chefnogaeth y gymuned ac a all ddod â newid cadarnhaol a chynaliadwy i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch pwy sy’n gymwys, gan gynnwys sut i wneud cais, yma:
Rydym wedi gweld gweithgarwch mawr yn ein sectorau ers lansio’r Cynllun Gweithredu a bydd yr arian hwn yn rhoi’r modd i sefydliadau lleol y sector gymryd camau pellach tuag at wireddu’n huchelgais o Gymru Wrth-Hiliol.
Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn fy mhortffolio. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio i sicrhau newid ystyrlon dros a chyda phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.