Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Yfory byddaf yn cyhoeddi lansiad Clystyrau cyntaf y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd. Rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer pedwar Clwstwr yng Nghaerffili, pedwar yng Nghaerdydd, un yng Ngwynedd ac un ym Mro Morgannwg. Yn ogystal, mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer dau Glwstwr Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint. Mae’r cyllid a gymeradwywyd ar gyfer y Clystyrau hyn yn werth ychydig dros £19 miliwn hyd at fis Mawrth 2015.
Mae’r 12 Clwstwr hyn yn cynrychioli bron i chwarter y rhaglen yr wyf yn disgwyl iddi ddatblygu dros y misoedd nesaf. Derbyniodd Llywodraeth Cymru geisiadau gan 52 o ardaloedd cymwys. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cynrychioli’r holl gymunedau sy’n gymwys i gael eu cynnwys yn y rhaglen newydd. Ceir cyhoeddiadau pellach am y Clystyrau eraill dros yr wythnosau nesaf ac rwy’n disgwyl i’r rhaglen newydd fod ar waith i raddau helaeth yn gynnar yn 2013.
Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dilyn ymgynghoriad helaeth a gynhaliwyd yn 2011, ac maent wedi derbyn cefnogaeth gref gan lawer o randdeiliaid. Y nod yw creu Rhaglen Mynd i’r Afael â Thlodi sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned, gyda’r pwyslais ar gefnogi’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae’r cyhoeddiad yn dangos bod y rhaglen newydd yn dechrau ymffurfio o ddifrif. Mae gan bob un o’r Clystyrau newydd Gynllun Cyflawni sy’n dangos sut y bydd y rhaglen yn yr ardal honno yn helpu i wella canlyniadau o ran iechyd, addysg a’r economi.
Ymhlith y prosiectau yng Ngwynedd mae yna Wasanaeth Cyflogaeth a rhaglenni gwirfoddoli i ddatblygu sgiliau. Mae’r rhain yn gweithio i greu a hybu cyfleoedd cyflogaeth mewn gwahanol sectorau gan gynnwys diwydiant a gweithgareddau awyr agored. Mae Sir y Fflint wedi pennu gwaith hanfodol i’w gyflawni mewn meysydd fel Cynhwysiant Cymdeithasol i Bobl Hŷn, Dysgu fel Teulu, gweithio gyda phobl ifanc NEET, Llythrennedd Ariannol a Chydlyniant Cymunedol.
Yng Nghaerdydd mae’r prosiectau yn cynnwys gwaith ar Gynhwysiant Digidol, Cydweithfeydd Bwyd a gwella sgiliau sylfaenol. Yn ogystal â cheisio ymestyn y sylfaen sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal, mae Bro Morgannwg wedi rhoi blaenoriaeth i brosiectau iechyd gan gynnwys prosiectau iechyd cymunedol, gwella iechyd meddwl a chynyddu gweithgarwch corfforol. Mae Clystyrau Caerffili wedi pennu gweithio gyda phobl ifanc NEET, gwella cyflogaeth ac incwm a gweithio i wella iechyd y gymuned fel meysydd gwaith allweddol.
Gyda’i gilydd, bydd y rhaglen yn gyfraniad allweddol bwysig at Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Trechu Tlodi. Mae pob cais wedi’i asesu’n ofalus er mwyn sicrhau bod y gyfran fwyaf bosibl o’r gyllideb yn cael ei defnyddio i weithredu prosiectau mewn cymunedau yn hytrach na chael ei gwario ar weinyddiaeth.
Bydd Cynnwys y Gymuned yn ganolog i’r rhaglen o hyd. Rydym yn awyddus i weld mwy o bobl leol yn cymryd rhan yn Cymunedau yn Gyntaf, felly bydd pob Clwstwr yn datblygu Cynllun Cynnwys y Gymuned er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd. Rhaid i’r Clystyrau ddangos bod mwy o bobl leol yn cael cyfle i gyfrannu mewn amrywiol ffyrdd. Caiff Byrddau Rhanbarthol eu datblygu hefyd er mwyn cefnogi’r Clystyrau a’r Cyrff Cyflawni Arweiniol. Y bwriad yw y bydd gan y cynrychiolwyr cymunedol lais cryf ar y Byrddau Rhanbarthol er mwyn sicrhau nad yw ffocws cymunedol y rhaglen yn cael ei golli. Mae’n hanfodol bod y gymuned yn parhau i gael ei grymuso, a bod yna gyd-drafod â hi, o dan y rhaglen.
Bydd llawer o’r Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf cyfredol yn parhau, ond bydd gan bob Clwstwr yr hyblygrwydd bellach i ddatblygu’r strwythurau anffurfiol sy’n gweddu orau i’w amgylchiadau lleol. Er y rhoddir cefnogaeth gref i’r cymunedau ym mhob un ohonynt o hyd, bydd y newid i gyfeiriad llai o ardaloedd mwy o faint yn golygu y gellir rhannu peth adnoddau rhwng cymunedau.
Mae’r newidiadau yn ymateb i argymhellion adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd yn 2009 a 2010. Yn arbennig, bydd y trefniadau newydd yn cynnig darlun llawer cliriach a mwy cyson o sut y mae’r rhaglen yn helpu i greu Cymunedau Mwy Ffyniannus, Cymunedau Iachach a Chymunedau sy’n Dysgu.
Mae yna fframwaith monitro newydd, cadarn ar gyfer rhaglen hon. Byddwn yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth allweddol am waith a chyflawniadau’r Clystyrau, ynghyd â’r rhaglen gyfan. Ceir Corff Cyflawni Arweiniol dynodedig ar gyfer pob clwstwr er mwyn sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn dda a bod y gymuned yn cael ei chynnwys. Bydd fy swyddogion yn cydweithio’n agos â’r Cyrff Cyflawni Arweiniol a bydd Byrddau Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Rhanbarthol hefyd yn goruchwylio ac yn cefnogi eu gwaith.
Rydym hefyd yn creu cysylltiadau cryfion â rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru fel y gall y Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf elwa ar y mentrau amrywiol sy’n cael eu datblygu gydag asiantaethau ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, rwy’n disgwyl gallu gwneud cyhoeddiadau pellach yn y dyfodol ynghylch cyllid atodol y gall yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf elwa arnynt, ac a fydd yn cefnogi gwaith timau’r Clystyrau yn yr ardaloedd a gyhoeddir yfory ac mewn ardaloedd eraill.
Ceir rhagor o wybodaeth am Cymunedau yn Gyntaf ar wefan Llywodraeth Cymru yn
www.cymru.gov.uk/cymunedauyngyntaf