Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddais Gyfarwyddydau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cyd-drefniadau Mabwysiadu) (Cymru) 2015 i ymgynghori arnynt gydag awdurdodau lleol yng Nghymru a’u partneriaid allweddol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 23 Rhagfyr 2014.

Rwy’n bwriadu defnyddio fy mhwerau o dan adran 3A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, a fewnosodir gan adran 170 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i gyhoeddi’r Cyfarwyddydau hyn er mwyn iddynt ddod i rym ar 31 Ionawr 2015.

Prif ddiben y Cyfarwyddydau yw sicrhau bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru gyd-drefniadau effeithiol ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu. Fel y cyfryw, eu bwriad yw sicrhau bod y Gwasanaethau Mabwysiadu Cenedlaethol, a lansiwyd gennyf i a’r Prif Weinidog ar 5 Tachwedd 2014 yn ystod yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol, yn cael ei sefydlu mewn ffordd effeithiol ac amserol.
 
Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn cynyddu’r gronfa o fabwysiadwyr ac yn sicrhau bod cymorth ôl-fabwysiadu o ansawdd da ar gael i’r rheini sydd ei angen. Bydd yn hyrwyddo mabwysiadu, ac yn bwysicaf oll, bydd yn rhoi’r cyfle i fwy o blant fod yn rhan o deulu cariadus a chefnogol.

Llywodraeth leol sy’n arwain ac yn darparu’r gwasanaeth newydd, gan weithio’n agos gyda phartneriaid sector gwirfoddol, ac mae’n rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygiadau sylfaenol yn y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu yng Nghymru. Y defnydd o’r pwerau hyn i gyhoeddi Cyfarwyddydau fydd un o elfennau cyntaf Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i’w rhoi ar waith.

Bydd tynnu gwasanaethau mabwysiadu ynghyd ledled Cymru ar sylfaen genedlaethol yn arwain at gydweithredu a chyd-gomisiynu gwell ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu, a fydd yn golygu llawer llai o oedi wrth osod plant i’w mabwysiadu.

Bydd hefyd yn caniatáu i adnoddau gael eu defnyddio’n fwy effeithlon ar gyfer hyfforddi, asesu a chymorth, yn gwella’r broses baru ac yn cynnig y dewis helaethaf o leoliadau.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn cael ei gyflwyno drwy fodel cydweithredu arloesol, gan dynnu ynghyd holl awdurdodau lleol Cymru ac ystod eang o sefydliadau ac arbenigwyr allweddol. Mae’r model y mae’n ei ddilyn yn parhau i fod yn agos iawn i’r hyn a amlinellwyd gan y cyn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, yn ei datganiad ysgrifenedig dyddiedig 25 Ebrill 2013, heblaw bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi hynny wedi cynnig newid y trefniadau llywodraethu, ac fy mod i wedi cytuno â hynny. Bydd Bwrdd Llywodraethu yn sicrhau bod targedau heriol yn cael eu gosod a’u cyflawni ar gyfer gwella’r gwasanaeth, a bydd Grŵp Cynghori yn tynnu ynghyd yr arbenigedd broffesiynol ac academaidd, gyda ffocws ar hyrwyddo arfer gorau a sicrhau bod llais a phrofiadau’r bobl sydd yn defnyddio ac sydd eisiau defnyddio’r gwasanaethau yn dylanwadu arnynt.

Mae penodiadau wedi cael eu gwneud i’r holl rolau allweddol. Ar lefel genedlaethol, Suzanne Griffiths, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd, fydd yn arwain y gwasanaeth.  Bydd y Cynghorydd Mel Nott, y Llefarydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cadeirio’r Bwrdd Llywodraethu, a Phil Hodgson fydd cadeirydd annibynnol y Grŵp Cynghori.

O dan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd, bydd awdurdodau lleol unigol yn parhau i ddarparu rhai mathau o wasanaethau mabwysiadu, ond bydd y rhan fwyaf yn cael eu darparu drwy bum cydweithredfa ranbarthol, gan grynhoi arbenigedd ac adnoddau’r awdurdodau lleol a’u partneriaid o’r sector gwirfoddol, iechyd a gwasanaethau addysg.  

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyllid pontio untro o £263,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, yn y dyfodol bydd llywodraeth leol yn ariannu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn llawn.

Mae dau ddarn hollbwysig o seilwaith bellach wedi’u gosod ar lefel Cymru gyfan i ategu llwyddiant y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Bydd Cofrestr Fabwysiadu newydd Cymru yn cael ei gweithredu gan BAAF Cymru ac yn chwarae rôl hanfodol o ran paru plant a’u darpar fabwysiadwyr i sicrhau bod pob plentyn yn cael eu paru’n gyflym ac yn addas. Yn ogystal, mae fframwaith perfformiad cenedlaethol at y diben wedi cael ei sefydlu i sicrhau bod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn.

Hoffwn longyfarch llywodraeth leol, yr asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol a’u holl bartneriaid am weithio mor galed i lansio’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Rwy’n croesawu eu hawydd amlwg i ymateb i’r her o greu gwasanaeth mabwysiadu arloesol a rhagorol ledled Cymru a sicrhau bod mabwysiadu yn sylfaen gadarnhaol, buddiol a hirhoedlog i’r plant hynny sydd ei angen. Rwyf eisiau cefnogi a gwella’r ffordd y maent yn darparu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd drwy’r Cyfarwyddydau y byddaf yn eu cyhoeddi, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliant dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol godi safonau a pherfformiad.