Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi lansiad Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Mae’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio’n dda, ac sy’n herio sut rydym yn meddwl ac yn teimlo am heneiddio.
Yn llawer rhy aml, mae pobl yn cysylltu heneiddio â salwch a dirywiad, ac yn anwybyddu’r cyfraniadau y gall pobl hŷn eu gwneud i gymdeithas. Drwy ofalu, mae pobl hŷn yn rhoi cymorth hanfodol i’w teuluoedd; i economi ehangach Cymru ac i system iechyd a gofal Cymru. Mae pobl hŷn yn talu trethi ac yn berchen ar fusnesau, maent yn cyfrannu at ein heconomi ac yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Drwy wirfoddoli, mae pobl hŷn yn rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol i eraill ac i’w cymunedau lleol.
Mae pobl hŷn wedi bod yn rhan uniongyrchol o’r broses o greu’r strategaeth hon a byddant yn rhan o’r gwaith o’i darparu drwy Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio. Byddwn yn sicrhau bod llais a phrofiadau pobl hŷn yn ganolog i’n proses bolisi ac yn parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn, dan arweiniad Age Cymru. Mae eu gwaith, ar y cyd, yn ein helpu ni i ddeall ac ymateb i’r prif faterion sy’n wynebu pobl hŷn heddiw.
Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i fynd i’r afael â’r ystod eang o ffactorau sy’n dylanwadu ar sut y byddwn yn heneiddio – o’n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i’r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth yw datgloi potensial pobl hŷn heddiw, a chymdeithas hŷn yfory.
I droi’r weledigaeth yn realiti, eleni rydym wedi dyrannu £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i fod yn awdurdodau o blaid pobl hŷn ac ymaelodi â Rhwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed Gyfeillgar. I ymaelodi, rhaid i awdurdodau lleol ddangos sut y maent yn creu cysylltiadau â phobl hŷn. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn rhannu ein gweledigaeth, ac yn rhoi cymorth ac arweiniad gwerthfawr i awdurdodau lleol wrth iddynt weithio tuag at gyflawni statws o blaid pobl hŷn.
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wedi llywio datblygiad y strategaeth hon ac yn ganolog iddi. Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oedran ac, yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig, rwyf eisiau iddi fod yn wlad sy’n cefnogi annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas pobl hŷn bob amser. Eleni, byddwn yn dyrannu £100,000 i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o’r effaith drawsnewidiol y gall dull sy’n seiliedig ar hawliau ei chael.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu cynllun cyflawni i osod camau gweithredu, cerrig milltir a graddfeydd amser clir i fonitro gweithredu’r strategaeth.
Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau’r holl bobl hŷn yng Nghymru, gallwn ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.