Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, yr wyf wedi agor yr ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn nesaf y Rhaglen Cartrefi Cynnes a'r rôl y gall ei chwarae i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gweithio tuag at sicrhau sero net erbyn 2050. Ers ei lansio yn 2009/10, mae dros 67,100 o aelwydydd incwm is wedi elwa ar welliannau effeithlonrwydd ynni, gan arbed tua £300 ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a lleihau allyriadau carbon.
Ym mis Hydref, roeddwn yn falch o gyhoeddi ein Cynllun Cymru Sero Net ar gyfer Cyllideb Garbon 2 (2021-25). Dangosodd hyn, cyn COP26, sut mae Cymru yn barod i chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gweithredu fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Wrth i'r pandemig barhau i effeithio ar ein bywydau a gwaethygu llawer o'r anghydraddoldebau a welwn ar draws cymdeithas, mae'n bwysicach fyth ein bod yn achub ar y cyfleoedd i ymateb i'r heriau hyn mewn ffordd sy'n gwneud Cymru yn genedl gryfach, wyrddach a thecach.
Mae'r polisi cyntaf un yn ein Cynllun Cymru Sero Net yn canolbwyntio ar broses bontio deg. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n cydnabod ac yn rheoli'r risg o roi’r mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas o dan anfantais anghymesur, a'r effaith y gall hyn ei chael ar ddinasyddion, busnesau a gweithwyr Cymru. Wrth i ni ddatblygu ein rhaglen Cartrefi Clyd nesaf, mae'n golygu ein bod ni'n meddwl yn ofalus sut na fydd costau pontio i ddyfodol carbon is yn ein cartrefi yn syrthio ar ysgwyddau'r rhai ar yr incwm isaf – mae'n rhaid i'n gwaith fynd i'r afael â thlodi tanwydd a’r argyfwng hinsawdd.
Nid yw’n hawdd taro’r cydbwysedd iawn. Mae ein cartrefi, sy'n gyfrifol am 10% o'r holl allyriadau carbon yng Nghymru, yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau. Yn ystod y pandemig mae mwy ohonom wedi bod yn treulio mwy o amser yn y tŷ, p'un ai am resymau gwaith, gofal plant, neu ddiogelwch, gan ddefnyddio mwy o ynni ar gyfer gwresogi a goleuo. Gwyddom o'r amcangyfrifon diweddaraf fod 155,000 o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd, gyda 145,000 o aelwydydd eraill mewn perygl o ymuno â nhw. Rydym yn gweithio i ddiweddaru'r amcangyfrifon hyn, o ystyried y cynnydd diweddaraf mewn prisiau ynni, cynnydd yn y cap ar brisiau ynni a thoriadau i gredyd cynhwysol a fydd mor annymunol i deuluoedd sydd eisoes wedi'u taro'n galed gan incwm isel a phrisiau cynyddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i lobïo a dylanwadu ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r pwerau sydd yn San Steffan i fynd i'r afael â'r pwysau hwn. Yn nes adref, rydym wedi cymryd camau i roi cyllid brys ar waith ar gyfer y gaeaf hwn, ochr yn ochr â'n gwaith trwy'r Rhaglen Cartrefi Clyd presennol, Safon Ansawdd Tai Cymru, y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a rheoliadau adeiladu tynnach i wella effeithlonrwydd thermol ac ynni cartrefi yng Nghymru.
Er gwaethaf hyn, credwn y gallwn wneud mwy a bod yn rhaid i ni wneud mwy i gyflymu cyflymder y newid. Yn y degawd hwn o weithredu, rhaid inni weithredu nawr i leihau'r ynni sydd ei angen i gadw ein cartrefi yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Rhaid inni leihau ein dibyniaeth ar losgi tanwydd ffosil a throsglwyddo i ffynonellau ynni carbon isel, glanach. Mae gormod o aelwydydd yng Nghymru yn gorfod dewis p'un ai i fwyta neu wresogi, ac mae hwn yn ddewis y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried na ddylai unrhyw un orfod ei wneud yn ein cymdeithas fodern.
Mae gennym gyfle i fynd i'r afael â'r ddwy her hyn ac felly rydym yn ymgynghori ar iteriad nesaf ein Rhaglen Cartrefi Clyd a'r rôl y gall ei chwarae, nid yn unig yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond wrth i ni weithio tuag at gyflawni sero net erbyn 2050. Rydym am glywed y safbwyntiau a'r lleisiau o bob cwr o Gymru ynghylch pa gefnogaeth sydd ei hangen ar aelwydydd dros y pump i ddeng mlynedd nesaf, sut y dylid ei darparu ac ar bwy y dylai ganolbwyntio. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 22 Rhagfyr 2021 a bydd yn para am ddeuddeng wythnos lawn o ddechrau tymor y Senedd, hyd at 1 Ebrill 2022. Er mwyn llywio'r ffordd orau o ddelio â'r heriau hyn, mae'n gofyn am farn ar amrywiaeth o feysydd eang gan gynnwys y cwmpas arfaethedig, cymhwysedd, opsiynau cyflenwi, sgiliau a thwf gwyrdd.
Ni all Llywodraeth Cymru gwrdd â'r heriau hyn ar ei phen ei hun. Trwy weithio gyda'n gilydd a mabwysiadu dull cyfunol, gallwn gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol mwy disglair, cynaliadwy a chyfiawn i'r cenedlaethau sy'n dilyn.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.