Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n newyddion gwych bod pobl yng Nghymru yn byw bywydau hirach a mwy iach nag erioed o'r blaen. O ganlyniad, rydyn ni'n gwybod bod galw cynyddol am wasanaethau acíwt a gofal cymunedol ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig y rheini sy'n 85 oed ac yn hŷn. Mae eiddilwch, dementia ac effeithiau cyflyrau cronig yn fwy amlwg yn y grŵp poblogaeth hwn nawr ac yn y dyfodol, a hynny mewn cyfnod lle mae adnoddau’n dynnach nag erioed o’r blaen. Gyda'r heriau hyn i’n system ofal a'r angen i wella ansawdd yn barhaus, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud mwy yn gynt i integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn llawn. Rydyn ni felly'n lansio ymgynghoriad ar Fframwaith newydd ar gyfer Integreiddio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn a fydd yn cynnig cyfeiriad a chymhelliant newydd i fynd i'r afael â'r pwysau hyn, ochr yn ochr ag ymdrechu i wella ansawdd gwasanaethau.

Mae'n bwysig bod gennym ddiffiniad clir o ystyr integreiddio. Mae hefyd yn rhaid i ni gydnabod o'r hyn nad yw'n cyfrif fel integreiddio. Nid oes rhaid i hyn olygu diwygio strwythurol, er enghraifft drwy uno gwasanaethau cymdeithasol â'r GIG. Mae'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn datgan yn glir mai gweithgarwch craidd ar gyfer llywodraeth leol yw gwasanaethau cymdeithasol. Mae i’r term ‘integreiddio’ nifer o ddiffiniadau sy’n adlewyrchu’r sbectrwm o lefelau lle gall integreiddio ddigwydd. Mae integreiddio i’r gwrthwyneb o ymwahanu. I bobl sydd angen gofal a chymorth, dylai olygu: ‘Mae fy ngofal yn cael ei gynllunio i fi gyda phobl yn cydweithio i fy neall i, fy nheulu a gofalw(y)r, yn rhoi rheolaeth i mi, ac yn tynnu gwasanaethau ynghyd i gyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig i mi.’

Mae hefyd angen i ni fod yn glir am y manteision rydyn ni'n eu disgwyl yn sgil integreiddio. Dros gyfnod, bydd hyn yn gwella cysondeb canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn symud canolbwynt gofal i’r cartref ac i ffwrdd o’r ysbyty. Bydd hyn yn sicrhau bod asesu aml-ddisgyblaethol da yn dod yn safonol. Bydd llai o dderbyniadau amhriodol mewn ysbytai a throsglwyddiadau gofal cartref diangen. Bydd rôl y meddyg teulu yn fwy canolog. Bydd ymyrraeth gynnar, ailalluogi a gofal canolraddol yn cael eu hymgorffori mewn un system. Bydd urddas a phreifatrwydd yn cael eu hamddiffyn.

Mae nifer o ofynion hanfodol sydd yn ein barn ni yn angenrheidiol ar gyfer integreiddio llwyddiannus y bydd angen eu rhoi ar waith i fodloni amgylchiadau lleol ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Set o fesurau canlyniadau ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – gan ddechrau gyda phobl hŷn ag anghenion cymhleth – y gall pawb gydnabod sy'n briodol, yn uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy.
  • Gwasanaethau sy'n seiliedig ar yr egwyddor a'r arfer o roi llais a rheolaeth o ran darparu gofal i'r claf/defnyddiwr gwasanaeth a’u gofalwr mewn ffordd ystyrlon;
  • Arweinyddiaeth gref ar y cyd ar y lefel uchaf mewn cynghorau a Byrddau Iechyd Lleol a phartneriaid allweddol, gyda threfniadau llywodraethu ac atebolrwydd effeithiol.
  • Systemau sy'n caniatáu amddiffyn a rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol fel nad yw rhannu gwybodaeth yn cael ei weld fel rhywbeth sy'n atal integreiddio.
  • Llawer mwy o ddefnydd o drefniadau partneriaeth ffurfiol a chyllidebau cyfun. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad cychwynnol, bydd angen i gynghorau a Byrddau Iechyd Lleol ddod o hyd i gyllid pontio. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn am weld cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn rhannu adnoddau. Rydyn ni’n disgwyl i bob Bwrdd Iechyd Lleol a chyngor perthnasol bennu targed penodol y cytunir arno'n lleol ar gyfer cyfran yr adnoddau pobl hŷn sy'n cael eu hymrwymo i gyllideb gyfun.
  • Pwyslais o'r newydd ar sefydlu timau ar y cyd ar lefelau rhanbarthol a lleol ynghylch gwasanaethau, gyda chyd-reolwr ar lefel uwch yn llywio newid. Mae'n rhaid goresgyn y rhwystrau canfyddiadol a ddaw yn sgil y telerau ac amodau cyflogaeth gwahanol.
  • Gwella gofal integredig drwy reolwyr cydgysylltu gofal, gan ddefnyddio cynllunio gofal integredig a thîm ag ystod o sgiliau a rolau. Dylid datblygu ymhellach y cysyniad o hyrwyddwyr clinigol a gwasanaeth.
  • Yn olaf, mae angen syniad clir o ddiben a chyfeiriad ar draws pob rhanbarth ac ardal leol. Nid ateb brys yw hwn, ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen gyda'r momentwm cynnar. Bydd angen i bob cyngor a Bwrdd Iechyd Lleol cysylltiedig lofnodi Datganiadau o Fwriad ar gyfer integreiddio gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ag anghenion cymhleth erbyn diwedd Ionawr 2014.

Nid cychwyn o'r cychwyn y mae'r cymhelliant hwn ar gyfer integreiddio. Gan adeiladu ar fuddsoddiad sylweddol yn y Grant ar gyfer Cydweithio ac ar gyllid datblygu gofal parhaus, mae gwaith pellach eisoes yn mynd rhagddo ledled Cymru. Mae hyn yn ymwneud ag eiddilwch yn bennaf, er enghraifft Rhaglen Eiddilwch Gwent, 'Rhith Ward' Hywel Dda, a'r Ymgyrch Wyn sy'n cael eu datblygu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, oll â chyllid Buddsoddi i Arbed gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â Model Arloesi Bhowmick yn Ynys Môn. Rydyn ni'n darparu cyllid o £143,000 dros 2 flynedd ar gyfer Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Gwyddoniaeth a Phrifysgol Abertawe a fydd yn datblygu'r dulliau ar gyfer asesu ansawdd a chostau gwasanaethau pobl hŷn integredig.

Mae'n rhaid i'r broses datblygu a gweithredu adeiladu ar y profiad a'r gwersi o'r safleoedd arloesi cynnar hyn a'r arfer da, er enghraifft ym maes anableddau dysgu iechyd meddwl. Yn arbennig, rydyn ni yng Nghymru wedi gwneud cynnydd da o ran sefydlu cymorth integredig ar gyfer teuluoedd ag anghenion cymhleth ar sylfaen statudol. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar yr egwyddorion a oedd yn hanfodol o ran gwneud y dull hwn yn llwyddiant.  Bydd angen i'r cam datblygu nesaf fynd â'r gwersi hyn i'r lefel nesaf, a sicrhau bod modelau gwasanaeth newydd yn rhan o wasanaethau prif ffrwd ar gyfer pobl hŷn ag anghenion cymhleth ym mhob cwr o Gymru. Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi cefnogi nifer o geisiadau gan wasanaethau cymdeithasol gyda phartneriaid y GIG ar gyfer adnoddau o dan y Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol, a fydd yn cynnig cyfleoedd i wneud cynnydd cynnar ar yr agenda integreiddio hwn a sicrhau synergedd pwysig o fewn a rhwng llywodraeth leol.

Nid yw’r fframwaith hwn yn rhywbeth annibynnol, ond yn hytrach mae’n ategu ystod o waith arall sy’n cael ei wneud eisoes. Mae partneriaeth Llywodraeth Cymru gyda llywodraeth leol, y GIG, trydydd sector a’r sector annibynnol wedi bod yn effeithiol a chynhyrchiol iawn o ran datblygu Fframwaith Gwasanaethau Integredig ar gyfer pobl hŷn ag anghenion cymhleth. Mae'r fframwaith rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw yn amlinellu'n disgwyliadau o ran maint, cwmpas a chyflymder newid i sicrhau gwasanaethau integredig ledled Cymru.

Mae'n rhaid i ni gyfeirio adnoddau fwyfwy at y gymuned a meithrin capasiti i alluogi pobl i aros gartref mor annibynnol â phosibl. Mae rôl gofal sylfaenol o ran sicrhau integreiddio effeithiol, yn rôl arbennig y meddyg teulu, yn ganolog i'r nod hwn. Rydyn ni wedi datblygu Cynllun Darparu Gofal Iechyd Lleol cysylltiedig i sicrhau integreiddio effeithiol ar draws gofal acíwt a sylfaenol gyda llywodraeth leol, a lansiwyd ar 25 Mehefin.

Bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cryfhau'r trefniadau partneriaeth i awdurdodau lleol a'r GIG weithio gyda'i gilydd. Mae darpariaethau penodol yn y Bil (Adran 147) a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Rheoliadau sy'n nodi math a ffurf y bartneriaeth dan arweiniad gwasanaethau, yn ogystal ag ystod o drefniadau gweithredol a rheoli ategol. Mae'r rhain yn bwerau sylweddol a fydd yn sicrhau mwy o gysondeb os na chaiff hyn ei gyflawni yn y blynyddoedd nesaf drwy gydweithredu.

Byddwn yn adrodd yn rheolaidd i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd o ran rhoi’r rhaglen newid bwysig hon ar waith.