Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Cyhoeddir y Datganiad Ysgrifenedig hwn mewn ymateb i'r pryderon y mae rhai aelwydydd wedi'u cael wrth inswleiddio waliau ceudod eu tai. Gall methiant inswleiddio wal geudod arwain at galedi difrifol i bobl sy'n agored i niwed ac a oedd dan yr argraff y byddai inswleiddio'n cadw eu tai'n gynnes ac yn gostwng eu biliau ynni.
Mae inswleiddio waliau ceudod, o'i wneud yn iawn, yn ffordd gost-effeithiol o leihau biliau tanwydd. Mae ei wneud yn iawn yn cynnwys asesu ffactorau pwysig cyn dechrau ar y gwaith, ffactorau fel adeiladwaith a chyflwr waliau allanol ac a yw'r gwynt yn chwythu glaw arnyn nhw. Yna, ar ôl gwneud y gwaith, rhoi gwybodaeth addas ynghylch ei gynnal a'i gadw. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae amheuon wedi codi ynghylch ansawdd yr asesiadau cyn inswleiddio, a'r sgiliau a ddefnyddiwyd.
Mae'r rhan fwyaf o waith inswleiddio waliau ceudod wedi'i wneud o dan gynlluniau Llywodraeth y DU neu gynlluniau cwmnïau ynni fel ECO a'i ragflaenwyr. Mae llawer o'r cynlluniau hyn yn cael eu targedu er lles y mwyaf bregus mewn cymdeithas, a fydd efallai'n llai abl i ddelio â phroblemau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae'r awydd i gael cymaint o waith â phosib ac i gadw prisiau i lawr a'r ffordd y rhoddir cymhellion i gael rhagor o waith posib i gyd wedi arwain at inswleiddio waliau anaddas a phroblemau ag ansawdd. Mae'r Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl, CIGA, wedi rhoi ychydig dros 300,000 o warantau yng Nghymru a bod ychydig dros 2,000 o hawliadau wedi dod i law.
Mae adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE Cymru) ar safon gwaith inswleiddio waliau ceudod ac allanol yng Nghymru yn dweud mewn rhai enghreifftiau bod eiddo anaddas yn cael ei inswleiddio neu fod y gwaith yn cael ei wneud yn groes i'r arfer gorau. Mae'r adroddiad, a'n gwaith ymchwil ni, wedi gweld tri maes yn arbennig y dylem ofidio amdanyn nhw.
- ansawdd asesiadau cyn inswleiddio; mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cartrefi anaddas yn cael eu hinswleiddio;
- dim digon o wybodaeth yn cael ei rhoi i ddeiliaid y tai, yn enwedig o ran pwysigrwydd cynnal a chadw'r waliau ac awyru priodol;
- ac yn olaf, y broses unioni pan fydd pethau'n mynd o chwith.
Mae inswleiddio waliau ceudod yn waith 'hysbysadwy' o dan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'r rhan fwyaf o'r inswleiddio'n cael ei wneud a'i hunan-ardystio trwy gynlluniau 'Person Cymwys' fel y'u gelwir, sy'n golygu bod y gwaith yn gorfod bodloni Amodau Caniatáu. Gwnaethom etifeddu'r cynlluniau hyn pan gafodd y cyfrifoldeb am reoliadau adeiladu eu trosglwyddo ddiwedd 2011 a'u bwriad yw sicrhau bod aelodau'r cynlluniau'n gallu profi eu bod yn gymwys i wneud meysydd gwaith penodol.
Un o argymhellion adroddiad BRE Cymru oedd cynnal asesiad o'r cynlluniau inswleiddio waliau ceudod, ac yn benodol, y gofyn i asesu p'un a yw adeilad yn addas. Mae fy swyddogion wedi trafod yr adroddiad gydag aelodau'r cynlluniau sydd wedi'u cofrestru i inswleiddio waliau ceudod, gan gynnwys y British Board of Agrément, sy'n gyfrifol am ardystio cynhyrchion a phrosesau inswleiddio, a CIGA. Mae CIGA wedi cydnabod y problemau sy'n wynebu cwsmeriaid ac wedi cymryd camau mewn sawl maes:
- Ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad annibynnol a chymwys o'r gwaith cyn ei wneud;
- Creu eiriolwr cwsmeriaid a gwella'r drefn ar gyfer ymateb i gwynion;
- Creu pecyn Gofalu am yr Eiddo ar gyfer deiliaid tai i'w cynghori ar y gwaith cynnal a chadw sydd ei angen i rwystro lleithder rhag effeithio ar y gwaith inswleiddio.
Yr un pryd â'n gwaith ni, mae'r adroddiad 'Each Home Counts' yn Lloegr wedi ystyried y cyngor y dylid ei roi i gwsmeriaid, y safonau diogelu a gorfodi ar gyfer nifer o fesurau arbed ynni yn y cartref ac ynni adnewyddadwy. Mae'r adroddiad yn nodi llawer o'r un problemau a godwyd yn adroddiad BRE Cymru.
Mae'n cynnig Marc Ansawdd newydd i ddelio â safonau, gwarantu ansawdd a gofal am gwsmeriaid ar gyfer rhaglenni fel ECO 3 a fydd yn dechrau yn 2018. Ysgrifennais at Weinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am roi argymhellion yr adroddiad ar waith i nodi'r tri maes sy'n peri'r gofid mwyaf imi, ac rydym nawr yn gweithio gydag adrannau perthnasol y DU ac yn ystyried pa gamau y dylem eu cymryd yng Nghymru.
Gallai Inswleiddio Waliau Ceudod fod yn rhan o becyn o fesurau a gynigir o dan gynlluniau Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed Llywodraeth Cymru. Mae ein ffordd ni o benderfynu pa fesurau arbed ynni y dylid eu hargymell ar gyfer eiddo penodol yn sicrhau mai dim ond y mesurau mwyaf priodol a chost-effeithiol sy'n cael eu gosod. Rydym wrthi'n treialu proses newydd o dan Arbed sy'n gofyn i Awdurdod Lleol drefnu bod arolygon annibynnol o dai cyfan yn cael eu cynnal cyn bod cynlluniau posib yn cael eu gwerthuso a'u talu. Dylai hynny wella eto'r broses o wneud penderfyniadau.