Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Mai 2018, cyhoeddais y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun gyda chymorth y wladwriaeth i ddarparu indemniad rhag esgeuluster clinigol i ddarparwyr gwasanaethau ymarfer cyffredinol yng Nghymru.
Ers mis Mai, mae swyddogion wedi bod yn trafod gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cyrff y GIG yng Nghymru, Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol (Cymru), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru a Sefydliadau Amddiffyn Meddygol ynglŷn â’r ffordd y bydd y cynllun yn cael ei weithredu yng Nghymru.
Yn dilyn yr ymgysylltu hwn â rhanddeiliaid, rwyf wedi penderfynu mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yw’r partner a ffefrir i weithredu’r cynllun hwn gyda chymorth y wladwriaeth, mewn perthynas â hawliadau ynghylch esgeluster clinigol fydd yn codi o fis Ebrill 2019 (a adnabyddir fel Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol). Bydd Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg er mwyn sicrhau dull gweithredu integredig ar gyfer rheoli hawliadau, gwneud ad-daliadau a dysgu gwersi. Bydd ymgysylltu parhaus â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a rhanddeiliaid eraill.
Bydd Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol yn sicrhau system indemniad fwy cadarn a chynaliadwy ar gyfer ymarferwyr meddygol yng Nghymru, drwy roi mwy o sicrwydd tymor hir o ran darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru. Bydd yn gwneud hynny drwy fynd i’r afael â phryderon ynghylch costau cynyddol indemniad. Rwy’n rhag-weld, wrth i’r cynllun fynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf, y bydd gofyn cael trafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod anghenion ymarfer cyffredinol yn cael eu bodloni’n llawn.
Bydd Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol yn cydweddu cymaint â phosibl â’r cynllun gyda chymorth y wladwriaeth sydd i’w sefydlu ar gyfer ymarferwyr cyffredinol yn Lloegr ym mis Ebrill 2019. Bydd hyn yn sicrhau na fydd contractwyr meddygol cyffredinol a’u timau ymarfer yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr, a bydd yn helpu hefyd i sicrhau na fydd y ffaith fod cynlluniau gwahanol yng Nghymru ac yn Lloegr yn cael effaith niweidiol o ran recriwtio meddygon teulu a gweithgarwch trawsffiniol.
Bydd Cynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol yn ymdrin â gweithgarwch yr holl gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, ynghyd ag unrhyw ofal brys integredig arall a ddarperir drwy Atodlen 2 contract safonol y GIG. Bydd hyn yn cynnwys atebolrwyddau o ran esgeulustod clinigol sy’n deillio o weithgareddau staff practisau meddygon teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill megis meddygon teulu ar gyflog, meddygon teulu locwm, fferyllwyr practis, nyrsys practis a chynorthwywyr gofal iechyd.
Fodd bynnag, ni fydd y Cynllun yn ymdrin â gwaith preifat, cwynion, cymryd rhan mewn achosion crwneriaid, gwrandawiadau’r GMS, gofal iechyd sylfaenol a ariennir yn breifat a materion eraill yn ymwneud â rheoleiddio proffesiynol. Bydd disgwyl i ymarferwyr cyffredinol sicrhau bod ganddynt indemniad ar gyfer yr holl agweddau nad ydynt wedi’u cynnwys dan y cynllun gyda chymorth y wladwriaeth.
Yn dilyn ymgysylltu pellach â sefydliadau amddiffyn meddygol a’n rhanddeiliaid eraill, byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol yn ystod yr wythnosau nesaf ynglŷn â gweithredu’r Cynllun yng Nghymru.
Yn ogystal, rwy’n cadarnhau fy ymrwymiad i’r cynllun gyda chymorth y wladwriaeth sy’n ymdrin â hawliadau am esgeulustod clinigol sydd wedi codi cyn Ebrill 2019 (sef y Cynllun Atebolrwyddau Presennol), yn amodol ar gwblhau prosesau diwydrwydd dyladwy ariannol a chyfreithiol a chynnal trafodaethau boddhaol gyda sefydliadau amddiffyn meddygol.
Byddaf yn gwneud Datganiad Ysgrifenedig arall maes o law.