Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gen i gyhoeddi lansiad y Cynllun Indemniad i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol – neu Gynllun Rhwymedigaethau’r Dyfodol, fel yr arferid cyfeirio ato. Bydd y Cynllun yn darparu indemniad esgeulustod clinigol i ddarparwyr gwasanaethau ymarfer cyffredinol yng Nghymru ac yn rhoi system indemniad mwy sefydlog a fforddiadwy i ymarferwyr meddygol cyffredinol. Bydd y cynllun, sy’n cyd-fynd mor agos â phosibl â’r cynllun a fydd yn cael ei gyhoeddi yn Lloegr, yn helpu i sicrhau na fydd effaith niweidiol ar recriwtio meddygon teulu a gweithgareddau trawsffiniol o ganlyniad i weithredu gwahanol gynlluniau yng Nghymru a Lloegr.

Caiff y Cynllun ei lansio yn dilyn fy natganiad ym mis Mai 2018, pan gyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu cynllun gyda chymorth y wladwriaeth a fyddai’n weithredol o 1 Ebrill 2019, a’m datganiad pellach ym mis Chwefror 2019 pan gyhoeddais mai Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fyddai’r partner a fyddai’n gweithredu’r cynllun.

Mae ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid, yn enwedig y sefydliadau amddiffyn meddygol, Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a GIG Cymru wedi bod yn hollbwysig i ddatblygu a darparu’r Cynllun. Bydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn parhau i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf wrth i’r Cynllun ymwreiddio a datblygu.  

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr i sicrhau bod y Cynllun Indemniad i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol yn cyd-fynd mor agos â phosibl â’r cynllun a ddatblygwyd yn Lloegr.

Rwy’n ddiolchgar i’r rhanddeiliaid sydd wedi cydweithio’n ddiflino i lansio’r Cynllun heddiw.