Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae yna dros 30,000 o fusnesau fferm yng Nghymru.  Maen nhw’n cynhyrchu bwyd o’r radd flaenaf, yn creu gwaith ar y fferm ac yn y gadwyn gyflenwi, yn gofalu am dirweddau unigryw Cymru ac yn cynnal cymunedau gwledig.

Mae ystadegau, gan gynnwys y rhai gafodd eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf, yn dangos bod incwm ffermydd ar gyfartaledd yn 2012/13 yn is nag yn y pedair blynedd diwethaf.  Wedi dweud hynny, mae incymau’n uwch nag oeddynt 2003/04 a 2007/08.

Mae incwm ffermydd yn gallu amrywio’n fawr o flwyddyn i flwyddyn ac ym mhedair o’r pum mlynedd ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd blynyddol o o leiaf 15 y cant.

Nid un peth yn unig sydd wedi achosi’r cwymp yn yr incwm adroddwyd arno yr wythnos diwethaf, ond cyfuniad o bethau; ac nid yw’r tywydd drwg a’r gyfradd gyfnewid wedi helpu.  Cafodd dirwasgiad 2008/09 lai o effaith ar amaethyddiaeth Cymru nag ar nifer o ddiwydiannau eraill, ond gyda economi’r Deyrnas Unedig yn llithro’n ôl i ddirwasgiad yn nechrau 2012, mae’n ffermwyr a phobl fusnes eraill yn dal i wynebu llawer o ansicrwydd economaidd.  Fodd bynnag, problemau tymor byr i bob golwg yw llawer o’r rhesymau pam y mae incwm ffermydd wedi disgyn.  Nid gwendid sylfaenol yn y diwydiant amaeth yng Nghymru yw gwreiddyn y broblem. Amlyga hyn hefyd bwysigrwydd modelau busnes ffermio cryf.

Roedd prisiau ŵyn Cymru yn is dros y misoedd diwethaf nag yn yr un cyfnod yn 2012 er bod prisiau wedi dechrau codi erbyn hyn i’r hyn oeddynt yn 2011.    Y rheswm am hynny yw effaith y tywydd ar y cyflenwad ŵyn dros yr haf a’r hydref diwethaf a’r ffaith bod cig oen sydd wedi’i fewnforio gymaint rhatach nag ŵyn Cymru. Canlyniad arall y tywydd cas yw bod cynhyrchwyr wedi gorfod prynu mwy o borthiant gaeaf a dwysfwyd nag arfer, ac mae eu prisiau nhw wedi codi’n sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf.  

Mae’r ffactorau hyn i gyd yn effeithio ar allu busnesau fferm i wneud elw ac rwy’n deall y pryder a’r rhwystredigaeth y mae cynhyrchwyr yn eu teimlo o’r herwydd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r diwydiant trwy’r cyfnod anodd hwn ac i helpu cynhyrchwyr i fod yn fwy effeithlon a phroffidiol ac i allu ymateb yn well i’r farchnad.  Rydym i gyd yn gytûn bod hynny’n angenrheidiol os ydym am weld y diwydiant ffermio yng Nghymru’n tyfu ac yn ffynnu.

Dydd Iau diwethaf cefais gadeirio cyfarfod cyntaf y Tasglu Llaeth yng Nghymru cyhoeddais yn y Cynllun Llaeth. Byddaf yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu rhaglen weithredu a fydd yn cael ei chyhoeddi nes ymlaen eleni i roi hwb i broffidioldeb y diwydiant godro yng Nghymru.

Rwy’n sylweddoli bod pwysau mawr ar incwm ffermydd ac rwy’n falch iawn felly bod fy swyddogion wedi trefnu bod dros 99% o daliadau Cynllun Taliad Sengl 2012, gwerth dros £243 miliwn, wedi’i dalu yn y cyfnod talu hwn.  Y Taliad Sengl yw’r cymhorthdal incwm sy’n cael ei dalu i ffermwyr yng Nghymru.

Ar gyfer ffermwyr a busnesau fferm sydd eisoes â’u traed danynt, mae amrywiaeth o wasanaethau sy’n ymateb i anghenion cynhyrchwyr ar gael trwy Cyswllt Ffermio, ac rwy’n awyddus bod cynhyrchwyr yn manteisio ar y gwasanaethau pwysig hyn i’w helpu i fod yn fwy effeithlon ac i gynllunio’u busnesau’n well.  Rwy’n annog pob cynhyrchydd i roi cynnig ar y cynlluniau sydd gan Cyswllt Ffermio i’w cynnig.  Mae cymhorthdal ar gael ar gyfer llawer ohonynt.    

Mae Hybu Cig Cymru yn gwneud gwaith rhagorol yn helpu sector cig coch Cymru trwy ddatblygu a hyrwyddo’r diwydiant a lledaenu gwybodaeth am farchnadoedd.  Mae’n cynnig cyngor a hyfforddiant ar gyfer rheoli busnesau’n well er mwyn i’r sector fod yn fwy cost-effeithiol ac i wella ansawdd ac ychwanegu at werth cynnyrch cig coch.  

Gyda’i daliadau uniongyrchol i ffermwyr a’i gymorth ehangach trwy Gynllun Datblygu Gwledig (CDG), mae dylanwad y Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin (PAC) ar iechyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cefn gwlad Cymru yn fawr.  Mae’r cymorth ariannol hwn yn hanfodol gan ei fod yn cynnal seiliau economi cefn gwlad yn ogystal â chynnal busnesau fferm unigol.  Am y rheswm hwn gwrthwynebais bolisi Llywodraeth y DU i ymofyn am leihad arwyddocaol yn nhaliadau PAC i’r gymuned ffermio, ac rwyf nawr yn crynhoi safbwyntiau i ‘ngalluogi i wneud penderfyniadau a fydd yn gwarantu lefel o gymorth ariannol i ffermwyr gan y trethdalwr am y saith mlynedd nesaf.  Rwy’n gobeithio y bydd y diwydiant cyfan yn defnyddio’r  saith mlynedd nesaf er mwyn cynllunio a pharatoi busnesau a fydd yn dibynnu llai ar nawdd cyhoeddus a mwy ar elw ac ar gynhyrchu’r hyn y mae’r farchnad yn gofyn amdano.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lwyddiant parhaol y diwydiant amaeth yng Ngymru a bydd yn parhau i’w helpu i fanteisio’n llawn ar farchnadoedd er mwyn cynnal busnesau fferm hydwyth ac economi wledig gynaliadwy yng Nghymru.