Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i gael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau, yn enwedig ar ein hiechyd meddwl a'n llesiant.
Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r camau yr ydym wedi'u cymryd i ymateb i effeithiau uniongyrchol y coronafeirws a sut y byddwn yn cefnogi pobl a chymunedau drwy fisoedd yr hydref a’r gaeaf sydd o’n blaenau.
Rydym wedi gwneud gwaith dadansoddi gofalus ar nifer o fathau gwahanol o ddata er mwyn deall sut mae’r coronafeirws a'r ymateb cenedlaethol iddo wedi effeithio ar iechyd meddwl a llesiant cyffredinol pobl. Ymateb cyffredin gan bobl yw eu bod yn teimlo’n fwy pryderus ers i’r cyfyngiadau ddechrau ym mis Mawrth. Lleddfwyd y pryder wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi yn ystod yr haf, ond mae perygl gwirioneddol y gallem weld lefelau pryder y boblogaeth yn cynyddu eto wrth inni ymateb i don newydd o’r coronafeirws y gaeaf hwn.
Mae nifer o arolygon a gynhaliwyd yn ystod y cyfyngiadau yn dangos rhai o achosion posibl y pryder cynyddol hwn, gan gynnwys pryder am iechyd personol ac iechyd anwyliaid; pryder am gyllid personol; poeni am les plant a theimladau o unigrwydd ac o fod yn ynysig.
Mae'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol yn ein cymdeithas, yn enwedig y rhai ar incwm isel; pobl â chyflwr iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes, plant ac oedolion ifanc, a phobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).
Nid oes un ffordd o ymateb i’r materion hyn – mae gofyn cael dull gweithredu amlochrog ac amlasiantaethol sydd wedi’i ddatblygu drwy gydweithio ar draws sectorau, ar draws adrannau'r llywodraeth ac ar draws gwasanaethau. Nid yw atal a chefnogi anghenion iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn rhywbeth y gall – nac y dylai – y GIG ei wneud ar ei ben ei hun.
Mae ein hymateb i effaith y pandemig ar iechyd meddwl yn canolbwyntio ar dri maes allweddol:
- Cynnal gwasanaethau iechyd meddwl ac ymateb i anghenion iechyd meddwl uniongyrchol;
- Cryfhau ffactorau amddiffynnol a lleihau effeithiau economaidd-gymdeithasol y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant;
- Cefnogi’r GIG i ddiwallu'r anghenion iechyd meddwl sy'n newid yn eu hardaloedd, gan gynllunio ar gyfer ail don a sicrhau y gall gwasanaethau iechyd meddwl sefydlogi ac adfer ar gyfer y tymor hir.
Cafodd gwasanaethau iechyd meddwl eu dynodi’n 'wasanaeth hanfodol' yn ystod camau cynnar y pandemig. Maent wedi parhau i fod yn hygyrch ac yn ymatebol drwy gydol y pandemig a’r cyfyngiadau.
Ar ddechrau'r pandemig, cafodd y cyllid arfaethedig o £3.5m i wella'r gwasanaeth iechyd meddwl ei ryddhau i’r byrddau iechyd i gefnogi'r gwaith o gynnal gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol tra'n ymateb i'r pwysau uniongyrchol oherwydd y pandemig. At hyn, darparwyd £2.2m yn ychwanegol i greu capasiti ar gyfer cynnydd mewn cleifion mewnol i sicrhau bod gan unedau iechyd meddwl hyblygrwydd i reoli galwadau ychwanegol ac i ddelio ag unrhyw achosion o’r feirws yn yr amgylcheddau hyn.
Ehangwyd llinell gymorth iechyd meddwl CALL hefyd a buom yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwybodaeth ar-lein wedi'i theilwra i gefnogi pobl i reoli eu hiechyd meddwl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
Gan adeiladu ar hyn, rydym wedi darparu £1.3m i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Silvercloud, sef cynllun peilot therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Mae cynllun Monitro Gweithredol MIND Cymru, y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc a llinell gymorth Anhwylderau Bwyta BEAT ar gael hefyd. Nid yw'r gwasanaethau haen 0 hyn yn disodli gwasanaethau arbenigol ond maent yn darparu mynediad hawdd at gymorth ac yn anelu at leihau'r galw ar wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer amrywiaeth o ddulliau rhanbarthol o leihau hunanladdiad a hunan-niwed gan gynnwys cymorth, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o ran profedigaeth.
Mae gan y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol ein cymunedau, ond mae wedi dod yn amlwg mai mewn meysydd y tu allan i iechyd y mae angen i ni gryfhau gwasanaethau – er enghraifft, cymorth cyflogaeth, atal digartrefedd a chymorth dyledion. Dim ond drwy ddull trawslywodraethol ac amlasiantaethol effeithiol y gellir cyflawni hyn. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi ysgrifennu at holl Weinidogion y Cabinet i dynnu sylw at y dystiolaeth sy'n sail i'r dull hwn ac mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar draws adrannau i gryfhau camau gweithredu i ymateb i'r niwed economaidd-gymdeithasol ehangach a'r niwed arall i’r gymdeithas.
Nodir y camau gweithredu newydd hyn mewn fersiwn wedi’i diweddaru o'n Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22. Mae’r cynllun wedi cael ei ddiweddaru i sicrhau bod y camau gweithredu'n ymateb i'r pandemig. Rydym wedi cyflymu nifer o gamau gweithredu i ymateb i'r anghenion iechyd meddwl uniongyrchol. Mae'r rhain yn cynnwys ymestyn cymorth haen 0, Menter Gwella Ansawdd Straen Trawmatig Cymru a chyflwyno Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol i gefnogi staff y GIG.
Mae'r cynllun wedi’i ddiweddaru yn nodi camau gweithredu newydd arwyddocaol yn y meysydd hynny sy'n ffactorau amddiffynnol pwysig i gefnogi iechyd meddwl a llesiant. Mae cymorth a gwydnwch yn y meysydd hyn yn rhan hanfodol o ymateb ar draws y system i leihau effaith economaidd-gymdeithasol y pandemig ar lesiant a lleihau'r angen i droi at wasanaethau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys, ymysg meysydd eraill, addysg, cyflogaeth, cynhwysiant ariannol a chymorth digartrefedd.
Byddaf yn parhau i weithio ar y cyd â'r Gweinidog Addysg ar ein Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol. Yn ddiweddar cyhoeddwyd £5m o arian ychwanegol gennym ar gyfer iechyd meddwl mewn ysgolion. Ochr yn ochr â £450,000 tuag at gefnogi iechyd meddwl a llesiant gweithlu'r ysgol, darperir cyllid hefyd i ddatblygu darpariaeth bellach ar gyfer cwnsela mewn ysgolion a chymorth meddyliol ac emosiynol i blant iau na blwyddyn 6. Rydym hefyd wedi datblygu'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Ieuenctid, a lansiwyd ym mis Mehefin ac a gynhelir ar HwB.
Fis Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth, yr Economi a’r Gogledd fuddsoddiad o £40m yn yr Ymrwymiad Covid i gefnogi swyddi a sgiliau. Caiff hyn ei dargedu i helpu'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan covid-19, gan gynnwys pobl ifanc. Bydd yr arian newydd yn ymestyn y cymorth sydd ar gael drwy ein Gwasanaethau Cymorth Mewn Gwaith ac Allan o Waith.
Mae'r gwaith y mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi'i arwain i gefnogi'r boblogaeth ddigartref yn ystod y pandemig wedi rhoi cyfle inni gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu gwell cymorth cofleidiol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
Drwy waith caled partneriaid yn nhimau tai yr awdurdodau lleol, yn y gwasanaethau iechyd meddwl ac yn y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, rydym wedi gweld cymorth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hintegreiddio’n llawer gwell, gyda rhai unigolion agored i niwed yn cael eu cyrraedd am y tro cyntaf er mwyn rhoi iddynt y cymorth a'r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen. Mae'r cynllun cyflawni diwygiedig hefyd yn cynnwys camau gweithredu newydd i gefnogi tenantiaid sy'n cael trafferth gydag ôl-ddyledion rhent a bydd yn cynnwys mynegbyst/atgyfeiriadau at wasanaethau cynghori eraill neu gymorth lle bo angen. Rydym hefyd yn ymestyn ymhellach y cyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan o denantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliadol sicr, i chwe mis, gan gydnabod yr effaith andwyol y mae ansicrwydd ynglŷn â chartref yn ei chael ar iechyd meddwl.
Rydym yn pryderu am yr effaith anghymesur y mae'r pandemig wedi'i chael ar grwpiau penodol yn y gymdeithas, yn enwedig y rheini a allai fod mewn sefyllfa ariannol fregus, ar incwm isel ac o grwpiau BAME.
Mae'r cynllun cyflawni diwygiedig yn adlewyrchu camau gweithredu newydd ar y Gronfa Gynghori Sengl a'r buddsoddiad pellach o £1.4m mewn cysylltiadau â chymorth iechyd meddwl er mwyn helpu i leihau effaith dyled ar iechyd meddwl. Er gwaethaf y gwelliannau yr ydym yn eu gwneud i raddfa ac argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth, nid yw pob grŵp yn defnyddio darpariaeth o'r fath mewn ffordd gyfartal. Rwyf yn pryderu'n arbennig am lefelau uwch o bryder ymhlith cymunedau BAME a thystiolaeth fod llai o bobl o’r grwpiau hyn yn manteisio ar gymorth iechyd meddwl.
I fynd i’r afael â hyn, rydym yn darparu cyllid ychwanegol i Diverse Cymru i sicrhau bod y Cynllun Ardystio Arferion Da yn y Gweithle o ran Iechyd Meddwl BAME yn cael ei sefydlu ymhellach yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda Diverse Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn hygyrch ac yn ddiwylliannol briodol. Rydym hefyd yn cryfhau ein hymgysylltiad ag asiantaethau'r trydydd sector er mwyn sicrhau bod gan bob un lais ym mhenderfyniadau polisi wrth symud ymlaen.
Cyhoeddwyd Cynllun Diogelu'r Gaeaf fis diwethaf, yn nodi ein cynllun a'n blaenoriaethau cyffredinol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol tan fis Mawrth 2021. Mae'n atgyfnerthu'r angen i barhau ddynodi iechyd meddwl yn 'wasanaeth hanfodol' ac rydym yn annog pobl i droi at wasanaethau iechyd meddwl pan fydd eu hangen arnynt.
Mae cyfres o egwyddorion lefel uchel i lywio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu llunio ar hyn o bryd ar y cyd â’r trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid eraill. Bydd hyn yn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau ac yn sicrhau bod cyfathrebu a dealltwriaeth gliriach o'r hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau yn ei weld yn bwysig a a pha wasanaethau fydd yn gallu eu darparu dros y misoedd nesaf.
Mae nifer o newidiadau y mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau wedi'u croesawu – yn enwedig y cyfleoedd cynyddol i ymgysylltu'n ddigidol. Hyd yn oed pe bai popeth yn mynd yn ôl i’r hen drefn ‘arferol’ yfory y byddem yn penderfynu ar y cyd bod rhai o'r newidiadau cyflym yr ydym wedi’u rhoi ar waith i reoli pwysau’r coronafeirws yn rhai cadarnhaol ac y dylent gael eu cadw. Bydd gweithio gyda'n gilydd i gynllunio ar gyfer amodau'r gaeaf a’r ymateb parhaus i’r coronafeirws hefyd yn ein helpu i sefydlu egwyddorion ar gyfer gwasanaethau yn y tymor hwy.
Byddwn yn parhau i weithio ar draws y GIG a'i bartneriaid fel rhan o'n dull adfer i'n galluogi i ddiwallu anghenion iechyd meddwl newidiol y boblogaeth. Bydd hyn yn cynnwys mynediad at fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer gwasanaethau haen 0, cymorth iechyd meddwl lefel is, yn ogystal ag ymrwymiad i'r meysydd blaenoriaeth fel y'u nodir yng Nghynllun Cyflawni Iechyd Meddwl 2019-22, gan gynnwys mwy o fynediad at therapïau seicolegol, gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAHMS), cymorth ag anhwylderau bwyta a gwasanaethau amenedigol.
Rydym yn buddsoddi tua £700m bob blwyddyn yng ngwasanaethau iechyd meddwl y GIG ac yn diogelu'r buddsoddiad hwnnw drwy neilltuo arian ar gyfer iechyd meddwl. Yn 2020-21, darparwyd £3.5m o gyllid, a oedd wedi’u gynllunio ar gyfer gwella gwasanaethau, ar ddechrau'r pandemig i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl ac ar hyn o bryd rydym yn rhyddhau'r £3.5m sy'n weddill o gyllid gwella gwasanaethau i fuddsoddi yn unol â blaenoriaethau'r cynllun cyflawni.
Cyfanswm y buddsoddiad ychwanegol i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl eleni yw £8.5m, sy'n cynnwys:
- £5m ar gyfer y dull ysgol gyfan
- £1.3m i gyflymu cymorth haen 0/1
- £2.2m i greu capasiti ar gyfer ymchwydd yn y galw.
Nid oes modd inni ragweld yn union sut y bydd y pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl, ond yr hyn sy'n amlwg yw bod angen dull cydweithredol a phartneriaeth i ymateb i anghenion iechyd meddwl a llesiant y genedl – ac mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn hyn.