Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 23 Tachwedd 2020, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith o sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd o’r enw Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan gadarnhau y byddai ymgyrch i recriwtio Is-gadeirydd a Chyfarwyddwyr Anweithredol yn dechrau.
Mae’n bleser gennyf ddweud bod yr ymgyrch wedi dod i ben a bod Is-gadeirydd a phum Cyfarwyddwr Anweithredol wedi cael eu penodi o faes eang o ymgeiswyr. Mae’r ymgeiswyr a benodwyd yn dod â chyfoeth o brofiad o amrywiaeth eang o sectorau.
Ruth Glazzard sydd wedi ei phenodi’n Is-gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae gan Ruth gefndir mewn gwasanaethau ariannol, rheoleiddio, a llywodraethu, a hefyd mae ganddi brofiad anweithredol o wasanaethu ar fyrddau cymdeithas tai a menter gymdeithasol.
Mae Grace Quantock yn dal nifer o swyddi anweithredol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a hawliau dynol, ac mae ganddi brofiad mewn ymchwil technolegau digidol a chreadigol gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Mae gan Rowan Gardner dros 30 o flynyddoedd o brofiad o weithio mewn busnesau a sefydlu busnesau sy’n defnyddio technoleg ddigidol i ddeall clefydau, a dod o hyd i driniaethau a meddyginiaethau newydd. Mae hefyd yn gweithio i hyrwyddo amrywiaeth ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.
Mae gan Sian Doyle brofiad rhyngwladol yn y sectorau telathrebu a manwerthu, lle y bu’n gweithio i weithredu strategaethau trawsnewid a digidol. Mae Sian yn un o Ymddiriedolwyr National Theatre Wales ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae David Selway yn beiriannydd siartredig gyda thros 40 o flynyddoedd o brofiad mewn defnyddio technoleg ddigidol i sicrhau bod trawsnewid yn digwydd ar draws sefydliadau TG a pheirianneg.
Mae gan Marian Wyn Jones brofiad helaeth ym maes newyddiaduraeth a darlledu, ac mae wedi dal swyddi Anweithredol ym meysydd addysg, iechyd a darlledu. Mae’r siarad Cymraeg yn rhugl, ac mae’n un o Ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Bangor.
Bydd yr Is-gadeirydd a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cefnogi Cadeirydd dros dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Bob Hudson OBE, er mwyn sefydlu arferion llywodraethu a sicrwydd da yn yr Awdurdod, gan wneud yn siŵr bod yr arferion hynny’n ymwreiddio wrth i’r Awdurdod ddatblygu ei weledigaeth strategol a’i flaenoriaethau cyflawni.
Hefyd mae tri Chyfarwyddwr Anweithredol wedi cael eu penodi i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bydd y penodiadau hyn yn sicrhau dilyniant wrth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru droi’n Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a byddant hefyd yn adeiladu ar brofiad er mwyn i’r sefydliad newydd lwyddo i gyflawni trawsnewid digidol mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru yn y dyfodol.
Helen Thomas sydd wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr dros dro tan 1 Medi 2021. Mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad mewn defnyddio gwybodaeth a data gofal iechyd i wella gwasanaethau’r GIG, ac mae wedi arwain Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru o ran darparu gwasanaethau digidol i gefnogi’r ymateb i COVID-19. Mae’r broses o benodi Prif Weithredwr parhaol ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, gyda’r ceisiadau’n cau ar 2 Ebrill 2021.
Bydd Rhidian Hurle yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Meddygol Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae Rhidian yn Llawfeddyg Wroleg Ymgynghorol, ac ar hyn o bryd ef yw Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru. Mae’n awyddus i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg ddigidol i helpu clinigwyr i ddarparu gofal ac i sicrhau canlyniadau gwell i gleifion yng Nghymru.
Claire Osmundsen-Little sydd wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cyllid. Mae gan Claire dros 20 mlynedd o brofiad, ac mae wedi dal swyddi cyllid uwch yn y sector preifat ac yn GIG Cymru, gan arwain y gwaith o drawsnewid cyllid a sicrhau arbedion.
Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn weithredol o 1 Ebrill 2021. Rwy’n hyderus y bydd y penodiadau hyn yn sicrhau y bydd gan yr Awdurdod yr arweinyddiaeth Ddigidol, Strategol, a Chlinigol briodol i fanteisio ar y cyfleoedd i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru y mae sefydlu’r Awdurdod Iechyd Arbennig newydd hwn yn eu creu.