Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Rheoliadau Ymchwiliadau a Chrwneriaid (Diwygio) <?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />
(Ymadael â’r UE) 2018
Cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n cael ei diwygio
· Deddf Ymchwiliadau 2005
· Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009
· Deddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959.
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru
Nid yw’r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru gan mai un o natur dechnegol ydyw.
Diben y diwygiadau
Diben y diwygiadau yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n codi wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mewn perthynas ag ymchwiliadau cyhoeddus. Bydd y rheoliadau yn newid cyfeiriadau at “EU obligations” ac “enforcable EU obligations” i “retained EU obligations” a “retained enforcable EU obligations”.
Mae’r OS a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy’n nodi effaith pob diwygiad, ar gael yma: https://www.gov.uk/eu-withdrawal-act-2018-statutory-instruments/the-inquiries-and-coroners-amendment-eu-exit-regulations-2018
Mae Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol hefyd wedi’i osod yn y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â’r diwygiadau i Ddeddf Ymchwiliadau 2005.
Mae’r OS hefyd yn gwneud cywiriadau technegol i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 a Deddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959, ond gan nad oedd modd i’r diwygiadau hyn gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru (gan eu bod y tu allan i’r cymhwysedd datganoledig) nid oes angen cymeradwyaeth ar eu cyfer.
Pam y rhoddwyd cydsyniad
Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro. O ganlyniad, byddai gwneud OSau ar wahân yng Nghymru ac yn Lloegr yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. Mae cydsynio i OS ar draws y DU yn sicrhau bod dull gweithredu cydlynus lle bo modd wrth baratoi’r llyfr statud fel ei fod yn gweithio’n iawn ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i wneud y ddeddfwriaeth yn eglur ac yn hygyrch ledled y DU. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn.