Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod sesiwn y Cyfarfod Llawn fis diwethaf, addewais y byddwn yn cyhoeddi datganiad ar gyfer Aelodau i esbonio sut y byddem yn mynd ati i helpu rhieni mewn ffordd fwy cynhwysfawr.

Mae ymchwil yn dangos o hyd ac o hyd bod gan rieni, neu’r rheini sy’n ymgymryd â rôl rhieni, ddylanwad anferthol ar ganlyniadau eu plant.  Mae sut y mae rhieni’n cefnogi eu plant yn bwysicach na ffactorau eraill, fel dosbarth cymdeithasol ac adeiladwaith y teulu.

Mae ymchwil yn dangos inni bod plant yn gallu elwa ar rianta cadarnhaol trwy wella’u hymddygiad a’u datblygiad cymdeithasol ac emosiynol.  Gallai rhieni elwa hefyd gan ddod yn fwy hyderus a dioddef llai o stres a llai o wrthdaro ar yr aelwyd.

Gall gwefannau, llyfrynnau, dosbarthiadau a grwpiau cymorth fod yn adnoddau rhagorol i helpu rheini i ddatblygu sgiliau rhianta cadarnhaol. Dyna pam ei bod yn bwysig bod rhieni’n gallu cael at wybodaeth a chyngor er mwyn cael gwybodaeth, help a thawelwch meddwl.  Dylai rhieni deimlo eu bod yn gwneud gwaith gwerthfawr a chael eu helpu i fod y gorau y gallant fod er lles eu plant. 

Heddiw, byddaf yn cwrdd â rhieni yn Sir y Fflint sydd wedi elwa ar help o’r fath.  Dyma sefyllfa neilltuol o briodol felly i gyhoeddi fy ymgyrch rhianta cadarnhaol “Magu plant. Rhowch amser iddo” a fydd yn dechrau yn yr hydref.  Y nod yw bod yr enw’n annog rhieni i fod yn rhieni ystyriol a chadarnhaol. 

Gan ddefnyddio’r thema ‘amser’, nod y deunydd fydd annog a chefnogi, gan hyrwyddo negeseuon ar sut i fod yn rheini cadarnhaol trwy nifer o gyfryngau gwahanol, gan gynnwys gwefan â gwybodaeth, cyngor a syniadau ynddi ble arall i fynd am gymorth.  Ein nod yw gwneud yn siŵr bod gwybodaeth a chyngor ar gael i bob rhiant yn ddiwahân.