Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 9 Hydref, rhoddais y newyddion diweddaraf am hynt adolygiad annibynnol yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Bydd yr adroddiad sy’n deillio o’r adolygiad hwn yn cael ei gyflwyno imi rywbryd tua diwedd eleni neu ddechrau’r flwyddyn newydd.

Nod adolygiad yr Athro Donaldson yw helpu i lunio cwricwlwm newydd i Gymru, er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu sgiliau sy’n briodol ar gyfer economi fodern. Bydd gan ei argymhellion oblygiadau pellgyrhaeddol i ddysgwyr ac athrawon yng Nghymru, a bydd angen  newid yn sylfaenol  sut mae ysgolion yn paratoi ein pobl ifanc ar gyfer byd gwaith neu ddysgu pellach.

Er y bydd yr adolygiad yn dylanwadu ar yr hyn sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion a cholegau yn y tymor hir, rwy’n awyddus i sicrhau bod ein rhaglen gwella ysgolion ar y trywydd iawn ac yn cadw at ei hamserlen i sicrhau gwelliannau i ddysgwyr heddiw, ac felly dyma’r newyddion diweddaraf am ein hymdrechion parhaus i wneud llythrennedd a rhifedd yn rhan hanfodol o’n cwricwlwm.
  
Yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, gwahoddais sylwadau am gynigion i ddiwygio’r Meysydd Dysgu ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol, a chyflwyno rhaglenni astudio newydd ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4 ar  gyfer Cymraeg (iaith gyntaf), Saesneg a mathemateg. Cefnogi’r cynigion wnaeth yr ymatebion, a byddaf yn darparu crynodeb ohonynt heddiw.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae’n bleser gennyf ddweud fy mod mewn sefyllfa i gyhoeddi’r fersiynau diwygiedig o’r Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio uchod:

http://learning.wales.gov.uk/resources/browse-all/revised-areas-of-learning-and-programmes-of-study/?skip=1&lang=cy

Ein bwriad yw eu gwneud yn statudol ym mis Medi 2015, ar yr un pryd ag y bydd y cymwysterau TGAU Cymraeg, Saesneg a mathemateg newydd yn cael eu haddysgu am y tro cyntaf, er bod y cymwysterau mewn gwirionedd ar gael nawr i helpu ysgolion gyda’u gwaith cynllunio a pharatoi.

O ran y Cyfnod Sylfaen, mae’r Meysydd Dysgu diwygiedig bellach ar eu newydd wedd ac maent yn pennu disgwyliadau o un flwyddyn i’r llall. Rhaid bod yn hollol glir nad yw hyn yn newid nod y Cyfnod Sylfaen mewn unrhyw ffordd – ni fu unrhyw newid yn fy ymrwymiad i’r Cyfnod Sylfaen a’i athroniaeth o ran addysgu a dysgu. Parhau y mae’r ffocws cryf ar addysgu ein  plant ifancaf ar gyflymder ac ar lefel sy’n addas iddyn nhw, a hynny’n ddysgu sy’n seiliedig ar brofiad.

Mae’r ffocws ar gynnig cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar hefyd yn cael ei ddatblygu drwy Fframwaith Datblygu ac Asesu’r Blynyddoedd Cynnar, sef un fframwaith asesu cynhwysfawr i blant 0-7 oed a chyfres o adnoddau asesu cysylltiedig i helpu i gofnodi cynnydd y plentyn. Er mwyn rhoi’r Fframwaith hwn ar waith, ein bwriad yw cyflwyno adnodd asesu dechreuol statudol o fis Medi 2015.

O ran y system asesu ehangach yng Nghymru, mae adolygiad yr Athro Donaldson o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r trefniadau asesu yn edrych yn fanwl ar y trefniadau yn y Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4. Nes bod goblygiadau’r adolygiad yn glir o ran ei effaith ar y trefniadau asesu, ac er mwyn sicrhau bod cyn lleied o aflonyddu ar y  system â phosibl, byddwn yn parhau â’r system bresennol lle mae’r athro yn cynnal asesiadau ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol, gan ddiwygio’r disgrifyddion lefel a ddefnyddir ar hyn o bryd i gyd-fynd â’r Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio newydd. Rhagwelir y bydd y disgrifyddion diwygiedig yn barod ym mis Ionawr 2015, a hynny ar sail anstatudol, gyda’r bwriad o’u gwneud yn statudol ym mis Medi 2015. Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith o weithredu’r Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio.

Hefyd, hoffwn sôn am faterion y bydd ymarferwyr yn awyddus i glywed mwy amdanynt, sef materion sy’n ymwneud â gweithredu’r diwygiadau hyn a’r cymorth cysylltiedig sydd ar gael. Rwyf am i’r ymarferwr allu adnabod y diwygiadau’n gyflym gan ddeall y rhesymu y tu ôl iddynt. Dyna pam y bydd pecyn cymorth ar gael, gan gynnwys llyfryn gwybodaeth i gyd-fynd â’r deunyddiau newydd i helpu ysgolion a lleoliadau i ymbaratoi. Ddechrau 2015, bydd pecyn gwybodaeth ar-lein ar gael drwy wefan Dysgu Cymru, ac rydym hefyd yn datblygu rhaglen o gymorth uniongyrchol er mwyn rhoi i ysgolion a lleoliadau yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddarparu’r Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio hollbwysig hyn. Bydd rhagor o wybodaeth am y cymorth hwn ar gael maes o law.

Mae’r holl weithgarwch hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â gweledigaeth ein cynllun addysg newydd i blant a phobl ifanc 3-19 oed, sef ‘Cymwys am Oes’, a  gafodd ei lansio ddechrau’r mis. Mae’n pennu nodau allweddol hyd at 2020, a hefyd amcanion strategol a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau yn y sector, a hynny drwy ganolbwyntio ar gryfhau’r gweithlu ac ar ddarparu cwricwlwm diddorol, yn ogystal â sicrhau bod cymwysterau’n cael eu parchu’n rhyngwladol a bod arweinwyr addysg yn cydweithio i wella safonau.

Mae’r broses o ddiwygio addysg yng Nghymru yn camu yn ei blaen, ac rwy’n falch o weld bod y drafodaeth yn eang a bod y gweithlu addysg wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr iddi. Rwy’n ffyddiog y bydd y Meysydd Dysgu a’r rhaglenni astudio newydd yn un o brif elfennau ein hymgyrch i sicrhau bod holl ddysgwyr Cymru yn cael y cyfle i elwa ar addysgu a dysgu rhagorol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael adroddiad yr Athro Donaldson ar droad y flwyddyn, gan y bydd hwnnw’n helpu i bennu’r camau nesaf ar ein taith tuag at sicrhau Cwricwlwm i Gymru.