Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt,  Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru, Trysorlys ei Mawrhydi a Swyddfa Cymru wedi dechrau trafodaethau ar y materion a nodir yn adroddiad Holtham mewn perthynas ag ariannu Cymru.

Bydd y trafodaethau’n cynnwys gwaith i ennill dealltwriaeth o:

  • dueddiadau o ran gwariant yng Nghymru;
  • astudiaethau blaenorol sydd wedi’u cynnal ynghylch anghenion Cymru;
  • y ffordd y mae’r pwerau benthyca presennol yn cael eu defnyddio.

Ar ôl inni ystyried y tueddiadau gwario a’r astudiaethau o anghenion blaenorol, ac yn amodol ar gytundeb Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU bod problem yn bodoli, bydd y cam nesaf yn edrych ar y dewisiadau ar gyfer diwygio.

Bydd y trafodaethau hyn yn parhau ochr yn ochr â gwaith y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, y disgwylir i Ysgrifennydd Gwladol Cymru wneud datganiadau pellach yn ei gylch cyn bo hir.