Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Ein gweledigaeth ar gyfer adfywio yw y dylai pawb sy’n byw yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, cynaliadwy, llawn addewid, sydd â chysylltiadau da, economi leol gref ac ansawdd bywyd da.
Hoffwn ddisgrifio ichi’r gwaith rydym wedi’i wneud trwy’n rhaglen adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a’n mentrau eraill sy’n helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru.
O ganlyniad i’n prif raglen adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae awdurdodau lleol yn rhannu cronfa gyfalaf o ragor na £100 miliwn ar gyfer cynlluniau adfywio dros y cyfnod 2014 i 2017. Mae’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn canol trefi, cymunedau glan-môr ac ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Da oedd gweld Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn canmol y rhaglen wrth i’r rhaglen gyrraedd hanner ffordd yn ddiweddar. Dywedodd y Grŵp fod y rhaglen yn dod â manteision arwyddocaol i economi Cymru a chymunedau. Mae ei phartneriaid yn rhagweld y bydd yn helpu i weddnewid canol trefi allweddol ac yn creu rhagor na 2,000 o swyddi, yn helpu i gael 3,000 o bobl i weithio, yn sbarduno £300 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, yn darparu 1,000 o unedau o dai fforddiadwy ychwanegol a mwy na 2,300 o gartrefi ar gyfer y farchnad.
Mae gennym lawer o enghreifftiau cadarnhaol, fel y prosiect i adnewyddu ac estyn Canolfan Gymunedol Jesse Hughes yng Nghaergybi. Mae’r Ganolfan yn adnodd cymunedol gwerthfawr a defnyddiwyd yr arian i’w hadnewyddu. Mae’r Ganolfan yn darparu gwasanaethau addysgol i rieni, pobl ifanc a phlant yng Nghaergybi, gan gynnwys clybiau ieuenctid, grwpiau cymunedol ac Uned Cyfeirio Disgyblion i bobl ifanc nad ydyn nhw’n rhan o addysg brif ffrwd. Ym Mhort Talbot, mae’r bartneriaeth leol yn mynd i’r afael â phroblem lloriau gwag uwchben siopau yng nghanol y dref. Pwrpas y prosiect newydd yw darparu cartrefi fforddiadwy newydd yng nghanol y dref, trwy adnewyddu lloriau uchaf eiddo masnachol.
Mae rhaglen Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn canolbwyntio ar helpu prosiectau yn y 10% o ardaloedd o amddifadedd sydd uchaf ar Fynegai Amddifadedd Lluosog. Mae £7 miliwn wedi’i rannu rhwng saith ardal, i’w wario dros gyfnod o dair blynedd. Mae partneriaid y prosiect yn rhagweld y bydd y rhaglen yn creu 78 o swyddi, yn helpu i gael 431 o bobl i weithio, yn sbarduno £10.8 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, yn creu 39 o gartrefi fforddiadwy a 100 o unedau tai ar gyfer y farchnad. Yn Grangetown, prif elfen y rhaglen yno yw troi Llyfrgell Havelock Place yn Hyb Cymunedol. Gyda Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £282,000 ynddi, bydd y ganolfan newydd yn gartref i gymysgedd o wasanaethau cymunedol hanfodol ac yn ganolfan bwysig ar gyfer datblygu sgiliau, hyfforddiant a rhoi cyngor ar swyddi.
Trwy’r Cynllun Benthyciadau Canol Trefi, mae £10 miliwn wedi’i neilltuo i un deg un o Awdurdodau Lleol i gael hyd i ddefnydd ymarferol i eiddo a safleoedd gwag. Caiff yr Awdurdod Lleol ailgylchu’r arian hwn nifer o weithiau cyn bod angen ei dalu’n ôl i Lywodraeth Cymru ymhen 15 mlynedd. Mae gwaith da wedi’i wneud. Yn Aberystwyth, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu hen ddepo bysiau yn y dref. Bydd yn ei hyrwyddo, gyda thir gerllaw sy’n eiddo i’r Cyngor, fel cyfle datblygu aml-ddefnydd mawr.
Mae Ardal Gwella Busnes yn fecanwaith ffurfiol i gymuned fusnes allu cael hyd i gyllid i helpu i ddatblygu ac adfywio’r economi leol. Rydym wedi rhoi arian i gynnal astudiaethau ymarferoldeb ac ar gyfer y broses o drefnu pleidlais mewn deg ardal. Mae pedair ardal, Caernarfon, Bangor, Castell-nedd a Bae Colwyn bellach wedi pleidleisio o blaid sefydlu Ardal Gwella Busnes. Bydd yr ardaloedd eraill yn cynnal pleidlais yn 2016. Mae’r gwaith diweddaraf gydag Ardaloedd Gwella Busnes yn dangos newid mawr ym momentwm y gwaith sy’n cael ei wneud gan y gymuned fusnes gyda phartneriaid allweddol i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu eu hardal. Mae Ardal Gwella Busnes Bae Colwyn yn cynrychioli 850 o fusnesau ac yn buddsoddi rhyw £1.25 miliwn o arian preifat mewn rhaglen gydgysylltiedig dros y pum mlynedd nesaf.
Rydym yn cefnogi 20 o Bartneriaethau Canol Trefi ledled y wlad gyda chronfa o £845,000 dros 3 blynedd. Bydd pob canol tref yn cael hyd at £50,000 i sbarduno creu partneriaethau lleol, i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu ac yna i gynnal prosiectau. Amcanion y prosiect yw denu mwy o bobl i ganol trefi, lleihau nifer yr eiddo gwag, annog mwy o amrywiaeth ar y stryd fawr a helpu busnesau i dyfu a ffynnu. Mae’r Porth ac Aberdâr wedi datblygu ap ffôn i hyrwyddo gweithgareddau yn yr ardal ac mae Llangefni wedi creu gwefan i ledaenu gwybodaeth am y dref ac i hyrwyddo digwyddiadau.
Amcan ein Hymgyrch Stryd Fawr yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y stryd fawr a’r rhan bwysig y mae’n ei chwarae yn y gymuned. Mae’r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo trwy’r wlad er mai digwyddiadau a gweithgareddau lleol sy’n cael eu trefnu. Mae’n cael llawer o sylw yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn 2015, cyflwynwyd Gwobr Arwyr y Stryd Fawr a daeth 752 o enwebiadau i law o bob rhan o Gymru ar gyfer unigolion, busnesau a darparwyr gwasanaethau.