Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwyf eisiau cefnogi ymarferwyr yng Nghymru i fod yn ddysgwyr gydol oes sy’n gwella eu harferion eu hunain er mwyn ysbrydoli ac ysgogi plant a phobl ifanc yn eu hysgolion.
Mae adroddiadau diweddar ar weithredu'r Cwricwlwm i Gymru a'r gwaith o ddiwygio'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi bod yn glir bod angen mwy o amser ar ein hymarferwyr i gynllunio, gweithio ar y cyd ac ymgymryd â dysgu proffesiynol. Roedd adroddiad blynyddol diweddar Estyn hefyd yn cyfeirio at ansawdd yr addysgu a'r asesu.
Yn 2019, cyflwynwyd yr HMS ychwanegol i gefnogi ymarferwyr i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ers hynny, mae ein system addysg wedi wynebu heriau sylweddol, yn anad dim effaith pandemig Covid-19 ar y drefn addysgol a'n dysgwyr. Gwn fod arweinwyr ysgolion yn galw am fwy o amser i gydweithio â'u staff a'u clystyrau ac rydym wedi gweld sut y mae'r HMS ychwanegol wedi bod o fudd i gynllunio, cydweithio a galluogi ein hymarferwyr i ddatblygu eu harferion er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr.
Heddiw, hoffwn rannu fy mwriad i osod rheoliadau sy'n parhau i ddarparu chweched diwrnod HMS ym mlwyddyn academaidd 2025/26. Rwy'n cyhoeddi hyn heddiw yn ein cynhadledd i benaethiaid fel bod gan awdurdodau lleol ac ysgolion ledled Cymru amser i gynllunio'n bwrpasol.
Yn ystod tymhorau'r haf a'r hydref, byddwn yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o HMS, gan gynnwys trafodaeth gyda rhieni, gofalwyr, dysgwyr ac ymarferwyr, er mwyn deall yn well effaith HMS ar addysg ein plant a'n pobl ifanc ac ar ddarparu amodau cefnogol i'n hymarferwyr. Bydd y gwaith hwn yn llywio ein Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg yn y tymor hwy.