Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Fis Rhagfyr diwethaf, gwnes ddatganiad gerbron y Senedd am ein nod i ehangu rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub i gefnogi’r GIG, ac am adolygiad manwl a gynhaliwyd gan ein Prif Gynghorydd Tân ac Achub, Dan Stephens, ar gapasiti a pharodrwydd y Gwasanaeth i ymgymryd â rôl o’r fath. Yn fras, daeth y Prif Gynghorydd Tân ac Achub i’r casgliad bod yna gapasiti i ysgwyddo rôl ehangach, a bod angen newidiadau yn arferion gweithio’r Gwasanaeth Tân ac Achub i wireddu hynny. Yn wir, canfu’r adroddiad ei bod yn debygol bod angen newidiadau o’r fath beth bynnag, gan fod peth tystiolaeth nad oedd yr arferion gweithio presennol yn caniatáu digon o amser i ddiffoddwyr tân hyfforddi, neu gyflawni gwaith hanfodol i leihau tebygolrwydd a difrifoldeb tanau.
Heddiw, yn dilyn yr adolygiad hwnnw, rwy’n cyhoeddi adolygiad a gynhaliwyd gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub ar bwnc penodol, sef hyfforddiant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r adolygiad ar gael yn Hyfforddiant gweithredol y gwasanaeth tân ac achub: adolygiad thematig | LLYW.CYMRU. Mae hyn, wrth gwrs, yn hanfodol bwysig i’n diffoddwyr tân, sy’n gwneud gwaith peryglus a hynod o gymhleth, ac i’r cyhoedd. Mae angen i ddiffoddwyr tân ennill, datblygu a chynnal ystod eang o sgiliau yn gyson ar gyfer amryw brosesau, tactegau, offer a dulliau gwneud penderfyniadau. Mae angen iddynt wedyn allu rhoi’r sgiliau hyn ar waith gyda’i gilydd ac yn unigol mewn digwyddiadau go iawn sy’n gallu bod yn sefyllfaoedd dynamig a heriol iawn. Mae’n hanfodol felly fod diffoddwyr tân wedi’u hyfforddi’n briodol ac yn drylwyr. Rwy’n gwybod bod hyn ymysg prif flaenoriaethau’r Gwasanaeth, fel y dylai fod.
At hynny, mae’r angen hwnnw wedi cynyddu yn ddiweddar. Mae’r gostyngiad hirdymor yn nifer y tanau wedi golygu ein bod nawr yn dibynnu ar ein diffoddwyr tân i ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau heblaw am danau. Maent ar flaen y gad yn dilyn damweiniau ffordd, llifogydd a gollyngiadau cemegol. Mae datblygiadau technolegol a gwelliannau gwyddonol wedi darparu llawer mwy o offer a thechnegau iddynt, ac wedi cynyddu’r angen iddynt eu meistroli. Mae newidiadau o ran dyluniad, adeiladwaith a chynnwys adeiladau wedi creu amgylchedd adeiledig sydd, mewn sawl ffordd, yn fwy cymhleth a pheryglus yn achos tân.
O ystyried difrifoldeb gwaith ein gwasanaeth tân, ceir rhai pryderon yn adroddiad y Prif Gynghorydd Tân ac Achub y mae rhaid mynd i’r afael â nhw. Mae ei adolygiad diweddaraf yn datgelu sawl gwendid difrifol yn y ffordd bresennol o gynllunio, rheoli a darparu hyfforddiant. Er bod arferion da i’w gweld, canfu fod gormod yn cael ei adael i is-swyddogion, mewn gorsafoedd tân unigol, nad ydynt bob amser yn cael eu cefnogi’n llawn i sicrhau safonau cyson ar lefel ddigon uchel ar draws y Gwasanaeth. Mae cyfleusterau hyfforddi mewn llawer o orsafoedd tân yn gyfyngedig, ac mae cyfleoedd i ddefnyddio cyfleusterau mwy cynhwysfawr a realistig yn cael eu llesteirio gan yr angen i deithio a chynnal darpariaeth weithredol yr un pryd. Mae hefyd dystiolaeth bod rhai tactegau diffodd tân yn dal i gael eu dysgu er bod ymchwil helaeth wedi bwrw amheuaeth ar ba mor ddiogel ac effeithiol ydyn nhw. Ceir enghreifftiau o’u defnydd mewn digwyddiadau o amgylch y byd lle y mae’n ddigon posibl eu bod wedi cyfrannu at farwolaethau diffoddwyr tân. Rwy’n gwybod y byddai pob un ohonom am wneud popeth posibl i ddiogelu’r rhai sy’n gwasanaethu ein cymunedau.
Nid yw’r adolygiad wedi gallu sefydlu’n bendant a oes gan ddiffoddwyr tân ddigon o amser i hyfforddi, ond mae hynny’n bennaf achos dim ond un o’r Gwasanaethau sydd wedi ymateb hyd yma i argymhelliad interim a wnaed gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub ym mis Mawrth. Serch hynny, o waith y Prif Gynghorydd Tân ac Achub mae’n ymddangos yn debygol iawn nad yw’r amser hwnnw’n ddigonol. Mae hynny’n arbennig o wir yn achos diffoddwyr tân wrth gefn neu “ar alwad”, y mae disgwyl iddynt feistroli’r ystod lawn o sgiliau diffodd tân mewn cyfran fach iawn o’r amser sydd ar gael i’w cydweithwyr amser llawn. Hyd yn oed yn achos diffoddwyr tân amser llawn, mae’r amser sydd ar gael i hyfforddi wedi’i gyfyngu gan batrwm gweithio sy’n neilltuo tua hanner shifft nos i gyfnodau gorffwys ac astudiaeth breifat, a bwrw nad oes digwyddiadau brys yn ystod yr amser hwnnw. Nid yw’r arfer hon wedi newid ers y 1970au pan oedd rôl diffoddwr tân yn llawer mwy cul a syml. Heb os, mae’r angen am hyfforddiant wedi cynyddu ers hynny, ac os nad yw’r angen hwnnw’n cael ei ateb mae hyn yn creu risgiau clir i ddiffoddwyr tân, rhywbeth na fyddai neb am ei weld. Yn fwy cyffredinol, nid yw neilltuo cymaint o amser i ddiffoddwyr tân orffwys tra maent ar ddyletswydd yn sicrhau’r gwerth gorau o ran diogelwch pobl a chymunedau yng Nghymru, ac mae’n sicr yn effeithio ar y potensial i ddiffoddwyr tân ymgymryd â rôl ehangach.
Mae’n hollbwysig bod ein tri Awdurdod Tân ac Achub yn ystyried canfyddiadau’r Prif Gynghorydd Tân ac Achub, ac yn ymateb iddynt, yn llawn ac yn brydlon. Mae’r un yn wir am ganfyddiadau adolygiad cynharach y Prif Gynghorydd Tân ac Achub, a amlygodd risgiau a allai fod yn rhai difrifol o ran blinder yn y trefniadau gweithio presennol. I wneud hyn, efallai y bydd angen gwneud dewisiadau sylfaenol ac anodd o bosibl, gan gynnal trafodaethau rhwng cyflogwyr a chyrff cynrychiadol – ond rhaid i ddiogelwch ein diffoddwyr tân a’r bobl maent yn eu diogelu fod y peth pwysicaf bob amser.
Hyd nes i hynny ddigwydd, mae’n amlwg nad oes modd bwrw ymlaen â rôl ehangach i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Er bod y potensial i’r Gwasanaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau iechyd yn glir, nid yw’n synhwyrol inni ofyn i ddiffoddwyr tân ymgymryd ag ystod ehangach o dasgau heb sicrwydd llawn eu bod yn gallu cyflawni eu dyletswyddau statudol presennol yn ddiogel ac yn effeithiol.
Rwyf wedi gofyn i’r Awdurdodau Tân ac Achub ymateb imi erbyn 11 Tachwedd yn esbonio eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r materion hyn, a byddaf yn gwneud datganiad pellach gerbron y Senedd yn fuan wedyn. Rwy’n gwybod mai eu prif ystyriaeth, fel ninnau, yw diogelwch y cyhoedd a gwasanaethu’r cyhoedd, a diogelwch y rhai sy’n darparu’r gwasanaeth hwnnw. Hyderaf y gallwn barhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r gwasanaeth mwyaf diogel a mwyaf cynaliadwy posibl yr hoffem ni i gyd ei weld.