Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ysgrifennodd Gweinidogion Cyllid y Gweinyddiaethau Datganoledig at Ganghellor y Trysorlys ar 15 Chwefror i wneud cais i dynnu ein holl stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn i lawr.  Cawsom ymateb Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar 28 Chwefror. 

Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod unwaith eto inni ddefnyddio’n stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn eleni, nac yn y dyfodol.  Dyma arian y pleidleisiwyd arno gan Senedd y DU ar gyfer pobl Cymru, i gynorthwyo ein hadferiad economaidd, ac i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a bywydau pobl Cymru.  Byddai’n helpu i liniaru effaith y toriadau llym ar wariant a gafwyd gan Lywodraeth y DU. 

Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi dangos ei ddiffyg dealltwriaeth o “Agenda Parch” Llywodraeth y DU, trwy gymharu’r Gweinyddiaethau Datganoledig ag Adrannau Llywodraeth y DU, o ran sut y mae’n delio â’r Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn.  Nid yw llythyr y Prif Ysgrifennydd yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, yn cael eu hethol yn ddemocrataidd, a’u bod yn atebol i’w pobl a’u hetholaethau hwythau. 

Mae diffyg dealltwriaeth y Prif Ysgrifennydd o wir sefyllfa datganoli a’n trefniadau atebolrwydd ein hunain yn amlwg yn ei eiriau.  Mae’n ystyried ei fod yn hael o ran tynnu’r Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn i lawr, trwy barchu’r cytundebau sydd wedi’u gwneud â’r weinyddiaeth flaenorol.  Hyn fyddai’n ddisgwyliedig, fodd bynnag, fel rhan o bolisi ‘Datganiad Cyllid’ Llywodraeth y DU â’r gweinyddiaethau datganoledig.  

At hynny, mae’r Prif Ysgrifennydd yn ystyried mai mater eithriadol oedd gallu’r Gweinyddiaethau Datganoledig i ddwyn y tanwariant sydd wedi’i ddatgan yn 2010-11 ymlaen i 2011-12, gan nad oedd hynny’n bosibl i Adrannau Llywodraeth Prydain. 

Mae ein prif bryder yn codi o sylwadau’r Prif Ysgrifennydd yn ei lythyr, bod Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn rhan o system gwariant cyhoeddus ar gadw ledled y DU, sy’n cael ei hariannu o’r Gronfa Gyfunol.  Mae’n cadarnhau bod ei benderfyniad i ddiddymu’r cynllun Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn a dileu pob un o’r stociau presennol yn unol â thargedau Llywodraeth y DU i leihau’r diffyg. 

Fel y dywedais sawl tro, rydym wedi chwarae ein rhan yn y broses o leihau’r diffyg, gan ddelio â’r toriadau o £163 miliwn o gyllideb Mehefin 2010 trwy reoli ein cyllidebau’n ofalus.  Fodd bynnag, mae angen yr hyblygrwydd sy’n cael ei argymell gan Gomisiwn Holtham arnom, inni allu rheoli’r setliad ariannol heriol hwn yn well.  
 
Rydym yn hynod siomedig â’r ymateb hwn, a’r diffyg dealltwriaeth parhaus o ystyr a goblygiadau datganoli, a byddwn yn parhau i bwyso ar y Prif Ysgrifennydd i ganiatáu inni dynnu ein holl stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn i lawr, yn y flwyddyn hon ac yn y dyfodol.