Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Cyflwynwyd Deddf Tiroedd Comin 2006 er mwyn cywiro diffygion deddfwriaeth gynharach, er mwyn diogelu tir comin ac er mwyn hyrwyddo ffermio cynaliadwy, mynediad at gefn gwlad i’r cyhoedd a buddiannau bywyd gwyllt.
Mae yna oddeutu 175,000 hectar o diroedd comin yng Nghymru, sy’n 8.5% o gyfanswm arwynebedd y wlad. Mae tiroedd comin yn bwysig at ddibenion amaethyddol, ac at y dibenion hynny y cânt eu defnyddio’n bennaf. Yn ogystal, mae tiroedd comin yn werthfawr o ran eu cyfraniad i dreftadaeth naturiol a chenedlaethol Cymru, yn enwedig ym maes cadwraeth natur a chynefinoedd - mae 40% o diroedd comin Cymru wedi’u dynodi’n Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae 50% yn rhan o dirwedd a ddiogelir.
Mae angen penderfynu a ydym am wella’r system gofrestru bapur gyfredol, a sefydlwyd yn yr 1960au, ynteu a ydym am gyflwyno cofrestr electronig. Mae hyn yn hollbwysig i’r gwaith parhaus o weithredu’r Ddeddf Tiroedd Comin yng Nghymru.
Rwyf wedi dod i’r casgliad mai’r ffordd orau i symud ymlaen yw cyflwyno Cofrestr Electronig o Diroedd Comin. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad o oddeutu £5m dros gyfnod o 8 mlynedd. Bydd fy mhenderfyniad a’r dewis hwn yn fuddiol o ran y gwaith o reoli tiroedd comin Cymru a bydd yn sefydlu system genedlaethol sy’n gyson ac y gellir ei defnyddio 24 awr y dydd. Bydd y gallu i gael mynediad at y cofnod cyfreithiol o diroedd comin o fudd i gominwyr a chymdeithasau comin wrth reoli tiroedd comin. Bydd y gofrestr electronig newydd hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i brosesu ceisiadau i newid y gofrestr yn fwy effeithlon a bydd hefyd o fudd i Lywodraeth Cymru o ran Glastir, diwygio PAC ac ymateb i unrhyw achosion o afiechyd ymysg anifeiliaid ar diroedd comin.
Rwyf wedi cyhoeddi buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar i gefnogi’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru drwy EIDCymru a diwygio’r drefn rhifo daliadau, felly rwyf wedi penderfynu cyflwyno’r gofrestr electronig gam wrth gam yn hytrach nag ar unwaith. Serch hynny, bydd gwaith ar weithredu agweddau eraill ar y Ddeddf Tiroedd Comin yn mynd rhagddo cyn gynted â phosib.
Bydd gwaith ar y Gofrestr Electronig o Diroedd Comin yn dechrau ym mis Ebrill 2015. Erbyn hynny, bydd EIDCymru wedi cael ei sefydlu. Daw’r gwaith i ben erbyn diwedd 2017. Bydd hyn yn galluogi defnyddio adnoddau’n effeithlon trwy gyflwyno’r prosiect gam wrth gam yn ystod cyfnod o newid sylweddol i’r diwydiant.
Bydd y system electronig yn disodli’r cofnodion papur a’r mapiau a ddelir gan awdurdodau lleol ac yn rhoi’r cyfan ar-lein. Byddant ar gael yn gyfleus a bydd y gwaith o ddiweddaru’r cofnodion a newid manylion tiroedd comin a’r hawliau drostynt gryn dipyn yn haws.
Mae fy mhenderfyniad yn golygu buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru a fydd o les i gominwyr a threftadaeth naturiol Cymru. Bydd yn symleiddio’r system gyfredol, yn sefydlu ffordd gyson o weithio ledled Cymru ac yn gwella mynediad at gofnodion yn unol â’n hamcanion Hwyluso’r Drefn.