Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Mae honiadau difrifol am gam-drin plant yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1970au a’r 80au wedi ymddangos yn y cyfryngau dros y Sul, a chafwyd galwadau am ymchwiliad newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif.
Yn y lle cyntaf, dylai pobl sydd wedi’u cam-drin ac sy’n teimlo nad ymchwiliwyd yn briodol i’w camdriniaeth fynd â’u hachosion at yr heddlu. Mae fy swyddogion wedi cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r honiadau pellach hyn ac yn eu hystyried.
Cyhoeddwyd adroddiad yr ymchwiliad barnwrol eang i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, dan gadeiryddiaeth Syr Ronald Waterhouse, yn y flwyddyn 2000. “Ar Goll Mewn Gofal” oedd ei deitl, ond caiff ei adnabod yn aml fel Adroddiad Waterhouse. Fe’i comisiynwyd (cyn dyddiau datganoli) gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, sef y Gwir Anrhydeddus William Hague, a’i gyflwyno i’r Gwir Anrhydeddus Paul Murphy, fel yr Ysgrifennydd Gwladol yn 2000. Roedd yn cynnwys argymhellion helaeth ar gyfer amddiffyn plant yn well, ac aeth Llywodraeth Cymru ymlaen i roi amryw o’r argymhellion hyn ar waith. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ymchwiliad i edrych i ba raddau y cyflawnodd Adroddiad Waterhouse yr hyn yr oedd i fod i’w wneud. O ystyried mai Llywodraeth y DU a gomisiynodd Adroddiad Waterhouse ac mai i Lywodraeth y DU y’i cyflwynwyd, a bod yr ymholiadau yn ymdrin â materion sydd heb eu datganoli yn ogystal â materion datganoledig, mae’n ymddangos bod y cam hwn yn gwbl briodol.
Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am faterion sy’n rhan o’i chymhwysedd. Rwyf wedi gofyn am gyngor brys ar yr hyn yr oedd cylch gorchwyl Ymchwiliad Waterhouse yn ei gynnwys. Maes o law bydd hynny, ochr yn ochr ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall, yn fy ngalluogi i ystyried unrhyw gamau y gall fod angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd.
Un o brif argymhellion Adroddiad Waterhouse oedd sefydlu Comisiynydd Plant Cymru. Rwyf wedi gwahodd Keith Towler i’m cyfarfod fel y gallaf glywed yr hyn sydd ganddo i’w ddweud drosof fy hun.
Yn olaf, hoffwn ailadrodd y dylai unrhyw rai a gam-driniwyd pan oeddent yn blant, sy’n teimlo nad ymchwiliwyd yn llawn i’w hachosion, gysylltu â’r awdurdodau priodol, sy’n cynnwys yr heddlu a’r Comisiynydd Plant.