Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn fanteisio  ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth ffeithiol gywir i aelodau er mwyn esbonio rhai o’r honiadau sydd wedi’u gwneud yn y cyfryngau sy’n ceisio amharu ar gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae grŵp o unigolion wedi gofyn am waharddeb dros dro i gael tynnu’u plant o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) ym mis Medi. Mae’r cais hwn am waharddeb yn rhan o’u cais am adolygiad barnwrol i’w gynnal yn yr Hydref. Ni chawn drafod y materion cyfreithiol gan y bydd yr Uchel Lys yn ymdrin â nhw.  Rydyn ni fodd bynnag yn hyderus bod ein diwygiadau’n gymesur a chyfreithlon.

Mae nifer o’r hawlwyr hyn yn gysylltiedig â grŵp ymgyrchu penodol.  Rwyf am ei gwneud yn glir iawn nad oes unrhyw wirionedd o gwbl i’r haeriadau a wneir gan yr unigolion hyn na chan y grŵp hwn yn ei lenyddiaeth.

Ni ddaw’r un o’r enghreifftiau o’r addysgu a’r adnoddau y mae’r grŵp yn cyfeirio atyn nhw o Gymru ac rwyf am ei gwneud yn glir iawn na fyddai Cod ACRh na’r canllawiau statudol yn eu caniatáu. Hanfod neges y grŵp yw ei honiad bod ACRh yng Nghymru’n rhan o ymgyrch “ryngwladol” i gyflwyno addysg gynhwysfawr ar rywioldeb a hynny, meddent, i rywioli plant. Mae hyn yn gwbl gwbl anghywir ac yn honiad hynod beryglus.

Rwy’n annog yr aelodau ac unrhyw un sy’n bryderus am y mater i ddarllen y Cod a’r canllaw statudol i weld drostynt eu hunain mor gamarweiniol a di-sail yw honiadau’r grŵp.

Fel ag sy’n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd, bydd ein dysgwyr ifancaf yn dysgu am gyfeillgarwch a theuluoedd, a byddan nhw’n bendant iawn ddim yn dysgu am berthynas ramantaidd neu rywiol. Gwaherddir hyn gan y Cod.  Mae’r gyfraith yn hollol glir: rhaid i’r ACRh a ddysgir fod yn gwbl briodol i ddatblygiad pob plentyn.

Rydym wedi gofyn dro ar ôl tro i’r grŵp roi’r gorau i daenu’r wybodaeth gwbl gamarweiniol hon am ACRh ac am yr hyn a ddysgir i blant. Byddwn yn dal ati i wneud hynny. Er hynny, maen nhw’n mynnu parhau i ddosbarthu taflenni gyda’r haeriadau di-sail hyn am ACRh y cwricwlwm newydd.

Rwy’n bleidiol iawn i’r broses ddemocrataidd a hawl pobl i brotestio a phwysigrwydd gallu troi at y gyfraith i ddwyn llywodraethau i gyfrif am eu penderfyniadau.  Ond mae tactegau ymosodol y grŵp hwn i bwyso ar y bobl sy’n gweithio yn ein Hawdurdodau Lleol a’n hysgolion yn fy arswydo.

Diben ACRh yw cadw plant yn ddiogel: rhag perthnasoedd a sefyllfaoedd a allai eu niweidio, yn enwedig ar-lein.  Mae plant heddiw’n gorfod delio â phwysau nad oeddem ni’n gwybod amdanyn nhw pan oeddem ni’n blant.  Ni allwn anwybyddu’r peryglon hyn.  Mae gwir berygl i’r honiadau a wneir gan y grŵp wneud niwed go iawn i’n plant ifanc wrth i’r grŵp geisio eu rhwystro rhag cael yr addysg hanfodol hon allai eu diogelu yn y dyfodol.

Testun balchder mawr i ni yw bod cyrff uchel eu parch fel yr NSPCC, y Comisiynydd Plant a Chymorth i Fenywod Cymru yn cefnogi’n cwricwlwm newydd a’r diwygiadau ehangach. Rydyn ni wedi cydweithio’n glos ac yn agored â’n partneriaid, gan gynnwys rhieni a gofalwyr ac athrawon, dros nifer o flynyddoedd i’w datblygu. Mae’r partneriaid hynny wedi croesawu ACRh fel elfen hanfodol ac amserol. 

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau.  Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach ar y mater neu i ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.