Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi, cyflwynwyd yn ffurfiol Her Ysgolion Cymru yn ein Hysgolion Llwybrau Llwyddiant. Mae’r ysgolion a Chynghorwyr Her Ysgolion Cymru wedi bod yn cydweithio dros yr haf ac i mewn i’r tymor newydd i ddatblygu a chyflwyno eu Cynlluniau Datblygu ar gyfer ysgolion. Bellach mae gan bob ysgol gynllun, sy’n amlinellu eu blaenoriaethau a’r camau y mae angen eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’u hanghenion datblygu unigol. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar wella addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o fewn yr ysgol. Mae’r holl gynlluniau hyn wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion yr ysgolion unigol a byddant yn sail i’r gwaith gwella carlam yn ystod y flwyddyn i ddod.

I’w helpu, mae pob un o’n Hysgolion Llwybrau Llwyddiant wedi derbyn dyraniad cyllid cychwynnol erbyn hyn. Cytunwyd ar hyn yn dilyn cyfnod o ystyried a chraffu gofalus ar gynllun pob ysgol. Hyrwyddwyr Her Ysgolion Cymru a’m swyddogion innau wnaeth y gwaith hwn. Mae’r dyraniadau yn seiliedig ar anghenion unigol pob ysgol a byddant yn eu helpu i weithredu eu rhaglenni gwella penodol.

Mae Cynghorwyr Her Ysgolion Cymru wedi sefydlu Byrddau Gwella Carlam ym mhob un o’u hysgolion. Bydd y byrddau hyn, ynghyd â’r Cynghorwyr, yn helpu’r ysgolion ac yn eu herio er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu cynlluniau, ac i hyrwyddo gwelliant cyflym. Byddant hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth roi gwybodaeth gyson i’r prif grwpiau perthnasol am y cynnydd a wneir, gan gynnwys ymarferwyr, awdurdodau lleol, consortia a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Wrth i Gynghorwyr Her Ysgolion Cymru gydweithio â’u hysgolion, mae’n anochel y daw anghenion ychwanegol i’r amlwg a fydd yn galw am gamau pellach. Er mwyn rheoli hyn, ac i sicrhau bod yr Her yn cadw’i momentwm, mae’n rhaid i’r broses o ddyrannu cyllid fod yn ddeinamig. Caiff y dyraniadau cyllid terfynol, felly, ar gyfer blwyddyn 1 y rhaglen ar gyfer pob un o Ysgolion Llwybrau Llwyddiant eu cyhoeddi ar ddiwedd tymor yr haf 2015.

Yn ogystal â’r cyllid sy’n cael ei roi i’r ysgolion eu hunain at ddibenion gwella, dyrannwyd cyllid Her Ysgolion Cymru ar gyfer pob consortiwm addysg er mwyn meithrin gallu ar lefel ranbarthol ac er mwyn hyrwyddo cydweithredu. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn canolfannau/grwpiau gwella, datblygu partneriaethau rhwng ysgolion a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr.

Mae’r dull hwn o gydweithredu a’i ffocws penodol yn seiliedig ar yr egwyddor o welliant sy’n cael ei ysgogi gan yr ysgol ei hun, lle caiff gwybodaeth ac arbenigedd sydd eisoes yn bod eu nodi a’u rhannu ar draws y system. Drwy roi pwyslais ar gydweithredu effeithiol, mae Her Ysgolion Cymru am feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ymhlith pawb, fel y gall pob un ohonom helpu i sicrhau bod dysgwyr Cymru yn cyflawni eu potensial.

Bydd Cynghorwyr Her Ysgolion Cymru yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r ymdrech hon, gan sicrhau bod ysgolion ac ymarferwyr mewn sefyllfa i gydweithio i oresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu.

Rwy’n falch o gael nodi bod Ysgolion Llwybrau Llwyddiant wedi ymateb yn frwd a’u bod i gyd yn bwrw ati i weithredu eu cynlluniau. Bydd eu gwaith yn gyfraniad pwysig i godi safonau o fewn system addysg Cymru, a bydd y dysg a ddatblygant, mewn partneriaeth ag ysgolion ledled Cymru, yn amhrisiadwy.