Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw byddwn yn lansio Her Ysgolion Cymru, sef pecyn cymorth gwerth £20m i wella perfformiad hyd at 40 o ysgolion uwchradd sy’n ymdrechu i ymdopi ag amgylchiadau heriol a hefyd sy’n wynebu anawsterau o ran cyflawni.

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys y £12.1m ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid y mis diwethaf fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i Ddatganiad Hydref Llywodraeth y DU. Ochr yn ochr â’r cyllid, bydd y rhaglen yn darparu arbenigedd i helpu nifer o’r ysgolion yng Nghymru sy’n perfformio waethaf, gan roi cymorth penodol iddynt wella lefelau cyrhaeddiad eu disgyblion.

Bydd yr ysgolion a ddewisir ar gyfer y rhaglen wedi eu nodi fel ysgolion sy’n tanberfformio yn ôl sut maent wedi eu bandio a hefyd amryw o ffactorau sy’n ymwneud ag amddifadedd, a byddant yn cael pecyn o gymorth sydd wedi’i deilwra i fodloni anghenion yr ysgol unigol a’i hamgylchiadau. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys arweinwyr ysgolion, athrawon, llywodraethwyr a chonsortia, yn cael eu herio i wella.

Oherwydd ein cred ddiysgog bod pob plentyn yn gallu llwyddo a bod pob un yn gallu anelu’n uchel, mae’n elfen ganolog yn Her Ysgolion Cymru bod y rhaglen yn canolbwyntio’n ddiwyro ar wella ansawdd addysgu a dysgu drwy ddatblygiad proffesiynol, ac yn hyrwyddo arweinyddiaeth drwy ddatblygu arweinwyr ar gyfer heddiw ac yfory.

Bydd y model a ddefnyddir yn seiliedig ar ddulliau gweithredu y profwyd eu bod yn gweithio yn heriau llwyddiannus Llundain a Manceinion, ond sydd wedi eu datblygu ymhellach a’u haddasu i gyd-destun Cymru. Byddwn hefyd yn manteisio ar arbenigedd o bob rhan o’r DU.

Bydd rhai o ysgolion gorau Cymru, y mae eu perfformiad yn rhagorol, yn cyfrannu at ymgyrch Her Ysgolion Cymru drwy rannu arbenigedd ac arweinyddiaeth i helpu athrawon yr Her i sicrhau unrhyw welliant y mae ei angen.

Nid oes unrhyw amheuaeth pa mor fawr yw’r her, ond byddwn yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, waeth beth yw ei gefndir economaidd, yn cael yr addysg orau bosibl er mwyn sicrhau ei fod yn cael y cyfle i wireddu ei botensial.