Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rwyf wedi ymrwymo i barhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau o’r Senedd ynglŷn â’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r Senedd rhag ymosodiad Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar ei chymhwysedd.
Fel y gwyddai’r Aelodau, dygodd Llywodraeth Cymru achos ffurfiol i geisio caniatâd am adolygiad barnwrol ym mis Ionawr 2021, gan gydnabod yr anawsterau sy’n wynebu’r Senedd yn sgil yr ansicrwydd y mae’r Ddeddf hon yn ei greu o ran gallu’r Senedd i ddeddfu (gweler Datganiad Ysgrifenedig, 19 Ionawr 2021).
Cafodd cais Llywodraeth Cymru am ganiatâd ei wrthod gan y Llys Adrannol, ar y sail ei fod yn rhy gynnar. Ni ffurfiodd y Llys farn ar sylwedd y cais. Cyflwynwyd apêl yn dilyn hyn.
Mae’r Llys Apêl, drwy Orchymyn dyddiedig 23 Mehefin, wedi rhoi caniatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y Llys Adrannol, gan nodi bod rhesymau cryf dros wrando ar yr apêl hon yn y Llys Apêl. Nodwyd hefyd fod yr achos yn codi materion pwysig o ran egwyddor ynglŷn â’r berthynas gyfansoddiadol rhwng y Senedd a Senedd y DU.
Rydym yn disgwyl i wrandawiad gael ei restru maes o law. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hyn.