Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae atal hunanladdiad a sicrhau bod cymorth priodol, amserol a thosturiol ar gael i unrhyw un sydd wedi'i effeithio gan hunanladdiad yn flaenoriaeth imi, ac i Lywodraeth Cymru. 

Gall profedigaeth wedi hunanladdiad fod yn ofnadwy ac mae'n hanfodol bod pawb yr effeithir arnynt yn gallu cael gafael ar gymorth. Gallai fod angen cymorth penodol wedi'i dargedu ar nifer o bobl mewn profedigaeth wedi hunanladdiad. Rwyf felly yn falch o lansio'r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yn swyddogol. Mae wedi'i ddylunio i ymateb i anghenion penodol pobl sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad, wedi'u heffeithio gan hunanladdiad neu mewn profedigaeth wedi hunanladdiad. 

Rydym wedi comisiynu Sefydliad Jac Lewis i ddarparu'r gwasanaeth newydd hwn, a fydd yn sicrhau bod cymorth cyson, amserol a rhagweithiol ar gael i bobl y mae colli rhywun yn sgil hunanladdiad yn effeithio arnynt; i'r rhai y gallai'r farwolaeth fod heb esboniad neu pan amheuir hunanladdiad.

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'r ymateb ehangach i sicrhau y gall pobl gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt ar unrhyw adeg yn dilyn profedigaeth. 

Rwyf hefyd yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer sefydliadau i'w helpu i ddeall eu rôl yn well o ran helpu pobl mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad neu sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad fel bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael cymorth amserol, tosturiol ac effeithiol ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen arnynt.

Mae'r canllawiau hefyd yn cyd-fynd â'n dyheadau i atal marwolaethau drwy hunanladdiad yn y dyfodol. Mae modd atal hunanladdiad ac nid yw byth yn anochel, ac mae gennym ni i gyd gyfraniad i'w wneud. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei wneud i gynnal sgwrs â rhywun, sgwrs a allai achub ei fywyd, ewch i: Modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth am Hunanladdiad - GIG SSHP.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi defnyddio'u profiadau personol eu hunain i lywio ein dull gweithredu. Bydd eich cyfraniadau wrth lunio'r canllawiau a'r gwasanaeth newydd yn helpu i sicrhau bod eraill sy'n wynebu amgylchiadau trasig tebyg yn cael y cymorth y maent ei angen a'i haeddu.

Hoffwn ddiolch hefyd i Sefydliad Jac Lewis, Gweithrediaeth y GIG a'r rhaglen atal hunanladdiad a hunan-niweidio sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r canllawiau a'r gwasanaeth. 

Mae'r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol a'r canllawiau newydd yn cynrychioli'r camau nesaf o ran cynnig cymorth i bawb y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt. Mae ein rhaglen waith ehangach i atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru yn cynnwys y rhaglen atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Ngweithrediaeth y GIG a'r rhaglen Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig. 

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ddrafft yn yr hydref.      

Mae lansiad y gwasanaeth newydd a'r canllawiau profedigaeth yn digwydd yn dilyn cyhoeddi data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch marwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr. Mae'r ffigurau yn dangos bod 386 o farwolaethau yn sgil hunanladdiad wedi digwydd yng Nghymru yn ystod 2023 (14 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl), a oedd yn gynnydd o ffigurau 2022 a'r nifer uchaf a gofnodwyd ers 2013. 

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau yn awyddus imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.