Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddais ddatganiad ar yr arfer o hawlio ddwywaith ar yr un darn o dir lle gall dau ffermwr hawlio taliad o dan wahanol gynlluniau ar yr un parsel o dir. Rwyf wedi ystyried yr adborth yr wyf wedi’i gael gan rai o brif gynrychiolwyr y diwydiant sy’n tynnu sylw at drefniadau deiliadaeth tir traddodiadol yng Nghymru sy’n galluogi mwy nag un hawlydd i gyflawni meini prawf y cynlluniau i hawlio ddwywaith ar yr un darn yn yr un flwyddyn.
O 2012 ymlaen, rwyf wedi penderfynu cynyddu’r rheolaethau er mwyn i ffermwyr allu parhau i hawlio ddwywaith ar yr un darn o dir yng Nghymru cyn belled a bod yr unigolyn yn cyflawni gofynion meini prawf y cynllun. Erbyn diwedd 2014, bydd y gallu i hawlio ddwywaith ar yr un darn o dir wedi dod i ben yn naturiol i gyd-fynd â diwedd Chynlluniau Amaeth-amgylchedd hŷn. Ni chaniateir hawlio ddwywaith ar yr un darn o dir ar gyfer Glastir a’r Cynllun Troi at Ffermio Organig.