Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Mae’r pandemig wedi amlygu’r anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein cymdeithas, a rhaid inni wneud rhagor i fynd i’r afael â nhw. Er hynny, wrth inni nodi blwyddyn ers dechrau’r pandemig, mae hefyd gyfle i edrych i’r dyfodol.
Y llynedd, comisiynais ein Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl er mwyn edrych ar yr effaith y mae’r pandemig Covid-19 wedi’i chael ar bobl anabl. Roeddwn yn bryderus iawn ynghylch adroddiadau’r Fforwm hwn a data eraill ar effaith Covid-19 ar bobl anabl. Roedd yn dod yn fwyfwy amlwg bod y pandemig yn effeithio’n negyddol ar bobl anabl, a hynny i raddau anghymesur. O’r herwydd, sefydlodd y Fforwm ymchwiliad seiliedig ar dystiolaeth i geisio deall profiadau pobl anabl a dysgu ohonynt.
Fe wnaeth y Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau gwrdd ag aelodau Grŵp Llywio’r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl yr wythnos ddiwethaf i drafod canfyddiadau eu hadroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.
Mae’r adroddiad hwn yn ganlyniad i chwe mis o waith caled ac ymrwymiad gan ei awduron. Mae wedi’i lunio ar y cyd gan yr Athro Debbie Foster o Ysgol Busnes Caerdydd a Grŵp Llywio o bobl anabl yn cynrychioli Sefydliadau Pobl Anabl ac elusennau, wedi’i gadeirio gan Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru. Ystyriodd y grŵp ddylanwad Covid-19 o sawl persbectif, gan gynnwys effaith anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol yn ein cymdeithas a sut mae’n dylanwadu ymhellach ar iechyd, llesiant, cyflogaeth, teithio, addysg a mynediad at wasanaethau.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Athro Debbie Foster ac i aelodau’r grŵp am roi o’u hamser a chyfrannu eu harbenigedd. Hoffwn ddiolch hefyd i’r rhai a gyfrannodd dystiolaeth a rhannu eu profiadau personol o’r effeithiau amrywiol y mae Covid-19 wedi’u cael ar eu bywydau. Mae’r Adroddiad yn seiliedig ar gorff mawr o dystiolaeth a ystyriwyd gan aelodau’r Grŵp Llywio, ac mae wedi’u strwythuro o amgylch 5 prif bennod.
- Cymharu’r model cymdeithasol a’r model meddygol o anabledd
- Hawliau dynol
- Iechyd a Llesiant
- Anfanteision economaidd-gymdeithasol
- Allgáu, Hygyrchedd a Dinasyddiaeth
Cyn cyhoeddi’r adroddiad, bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn ystyried yr adroddiad a’i argymhellion yn fanwl a darparu adborth ar yr adroddiad lle’n angenrheidiol. Byddwn yn sefydlu Tasglu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb a amlygir gan yr adroddiad ac yn goruchwylio’r broses o weithredu’r camau sydd i’w cymryd. Mae’r adroddiad yn argymell ystod o gamau y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â nhw ar y cyd â’n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Rwy’n falch o ddweud ein bod ni eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â rhai o’r argymhellion, gan gynnwys yr alwad am dystiolaeth a data mwy dibynadwy i fod yn sail i’r broses o wneud penderfyniadau. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer Uned Data a Thystiolaeth ar Gydraddoldeb yng Nghymru. Hefyd, dylem gael adroddiad ar ganfyddiadau’r ymchwil yr ydym wedi’i chomisiynu ar wella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn fuan. Ymgynghorir ar unrhyw fodelau deddfwriaethol a fydd yn deillio o’r ymchwil hon yn nhymor y Senedd newydd.
Hoffwn hefyd bwysleisio bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r Model Cymdeithasol o Anabledd, fel y galwyd amdano yn yr adroddiad.
Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i fod wrth wraidd gwaith Llywodraeth Cymru a’n gweledigaeth o sicrhau Cymru decach; gwlad sy’n sicrhau mynediad teg at wasanaethau, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn ceisio canlyniadau mwy cyfartal i bob un o’n dinasyddion, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.