Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yng Nghymru o ran cynnal hawliau plant, yn enwedig mewn perthynas â dau argymhelliad penodol a wnaed gan Sylwadau Terfynol Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn 2016, sef cyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol a gostwng yr oedran pleidleisio i bobl ifanc.

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020

Rwyf wrth fy modd bod Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 wedi’i llofnodi a’i gwneud yn rhan o gyfraith Cymru. Dylai fod yn destun balchder inni bod ein cenedl wedi gweithredu’r cam diwygio pwysig hwn i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag cosb gorfforol. Mae hon yn hawl sy’n perthyn i bob plentyn, yn unol ag erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Pan ddaw’r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2022, ni fydd amddiffyniad cosb resymol ar gael mwyach yng Nghymru. Bydd cosbi plant yn gorfforol, felly, wedi’i wahardd.

Rydym yn annog rhieni i fagu eu plant mewn ffordd gadarnhaol, gan gynnwys dulliau positif i ddisodli cosbi corfforol, drwy ein hymgyrch Magu Plant. Rhowch Amser Iddo; canllawiau i ymarferwyr sy’n gweithio gyda rhieni; a rhaglenni fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Ein nod yw y bydd y newid yn y gyfraith, ynghyd ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth a chefnogi rhieni, yn lleihau’r arfer o gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru a’r graddau y goddefir hynny.

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

Mae rhoi llais i bobl ifanc yn ein democratiaeth yn hyrwyddo arferion pleidleisio a brwdfrydedd dros bleidleisio sy’n para am oes. Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn ymestyn yr hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

Er mwyn galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Cam cyntaf yn unig yw pasio’r ddeddfwriaeth yn yr ymgais i roi i bobl ifanc eu hawliau i ddweud beth maen nhw’n meddwl ddylai ddigwydd mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Rydym yn gweithio i wella llythrennedd gwleidyddol ac ysbrydoli pobl ifanc i gyfrannu at drafodaethau democrataidd a deall pam y dylent gofrestru i bleidleisio.

Mae'r dyddiad yr ydym yn ei nodi yn cwympo yn ystod cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen.

Mae ein plant a'n pobl ifanc wedi wynebu heriau o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ac fe fydd hynny’n parhau. Mae hawliau plant yn parhau i fod yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru. Dyna un o’r rhesymau pam y gwnes i, ynghyd â Chomisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a'r Senedd Ieuenctid, lansio arolwg 'Coronafeirws a Fi' ym mis Mai. Dyma’r cyntaf o’i fath yn y DU a chafodd ei gydnabod gan UNICEF fel enghraifft i'w ddilyn gan wledydd ledled y byd.

Rhoddodd gyfle i blant a phobl ifanc ddweud wrthym am eu profiadau, eu teimladau a'u pryderon am y pandemig. Ymatebdd dros 23,700 o blant a phobl ifanc. Mae’r canfyddiadau cychwynnol i’w gweld yma  https://www.complantcymru.org.uk/coronafeirws-a-fi-canlyniadau/ 

Mae'r canlyniadau eisoes wedi llywio penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd y rhan fwyaf o blant eu bod yn poeni eu bod ar ei hôl hi gyda’u haddysg. Rydym wedi gwrando ar yr adborth hwn, ac wedi gweithredu arno, gan roi cyfle i bob disgybl 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ ar gyfer yr haf a mis Medi.

Mae cefnogi lles emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i ni. Fel rhan o'n dull ysgol-gyfan o weithredu ynghylch lles emosiynol a meddyliol, rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth o gymorth i ddysgwyr. Rydym hefyd yn datblygu modiwlau hyfforddi athrawon ar ddatblygiad plant, iechyd meddwl a niwroamrywiaeth i sicrhau bod athrawon yn gallu gweld arwyddion cynnar problemau yn yr ystafell ddosbarth a’u bod yn gwybod sut a phryd i gyfeirio disgyblion at wasanaethau arbenigol os a phan fo angen.

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y broses o wella gwasanaethau arbenigol gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) i bawb sydd eu hangen ac rydym yn gweithio i wella mynediad i bobl ifanc, gan gynnwys cwtogi amseroedd aros a sefydlu timau niwroddatblygu ym mhob Bwrdd Iechyd. Mae llai o blant a phobl ifanc yn gorfod aros am gyfnod hir i gael cymorth CAMHS arbenigol.

Gwyddom fod llawer o deuluoedd yn dibynnu ar brydau ysgol am ddim i sicrhau bod eu plentyn yn cael pryd iach o fwyd bob dydd. Ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch yn y cyfryngau i sicrhau bod pob disgybl sydd â'r hawl i gael cinio ysgol am ddim a llaeth ysgol am ddim yn eu cael. Ar 30 Mai, roedd 37% yn fwy o blant yn cael prydau ysgol am ddim nag ar 14 Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £40m ychwanegol i sicrhau bod pob plentyn cymwys yn parhau i gael prydau ysgol am ddim drwy gydol yr haf.

Rydym hefyd yn sicrhau y darperir bwyd i unigolion a theuluoedd agored i niwed sy'n ceisio cymorth brys a mynediad at fwyd drwy fanciau bwyd annibynnol.

Cynllun Hawliau Plant

Rydym yn newid ein dull o adrodd ar gynnydd mewn perthynas â hawliau plant. Nododd ein cynllun hawliau plant yn 2014 ein bwriad i roi gwybod am gydymffurfiaeth mewn perthynas â’r ddyletswydd ‘sylw dyledus' o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 bob dwy flynedd a hanner – amserlen fwy uchelgeisiol na'r cylch adrodd pum mlynedd sy'n ofynnol o dan adran 4 o'r Mesur. 

Yn sgil pandemig y coronafeirws a'r angen i ganolbwyntio adnoddau ar yr ymateb, byddwn yn dychwelyd i'r cylch adrodd pum mlynedd sy’n seiliedig ar Erthygl 44 (1) (b) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Bydd hyn yn ein galluogi hefyd i ganolbwyntio ar fersiwn wedi’i ddiweddaru o’r cynllun hawliau plant y bwriadwn ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori maes o law. Byddwn yn adrodd ar gydymffurfiad mewn perthynas â’r ddyletswydd sylw dyledus ym mis Ionawr 2023, gan gynnwys y cyfnod o fis Chwefror 2018 hyd nes fis Rhagfyr 2022.

Fel y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros blant, rwy’n ceisio gwneud popeth yn fy ngallu i roi plant a phobl ifanc ar frig pob trafodaeth. Rwy’n gobeithio trefnu digwyddiad rhyngweithiol gyda phobl ifanc yn gynnar yn ystod gwanwyn 2021 i ddathlu llwyddiannau'r agenda plant yng Nghymru.

Wrth inni edrych tuag at ailgychwyn ac adfer, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i atgyfnerthu a chryfhau ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu byw eu bywydau mewn ffordd sy'n eu galluogi i ffynnu, mewn amgylchedd diogel a meithringar. Mae ein hymrwymiad at hawliau plant yn parhau i fod yn ddiwyro.