Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2009 (‘Mesur’) yn ddarn o ddeddfwriaeth arloesol sy’n gwneud darpariaeth i blant yng Nghymru gael yr hawl i gyflwyno apêl mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig a hefyd yr hawl i wneud honiad bod ysgol yn gwahaniaethu ar sail anabledd, gerbron Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru eu hunain. Mae’r Mesur yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr hawliau newydd hyn yn effeithiol. 

Yn sgil y Mesur, gwnaed  Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 (‘rheoliadau treialu’) er mwyn treialu’r hawliau a dyletswyddau newydd a gyflwynir o dan y Mesur yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam, a hynny hyd at 30 Mehefin 2015. Mae hyd y cyfnod treialu’n rhoi cyfle i werthuso’r hawliau a’r dyletswyddau ac i wneud gorchymyn i ddiwygio’r Mesur os bydd angen. Ar ôl i gyfnod y rheoliadau treialu ddod i ben, bydd yr hawliau a’r dyletswyddau wedyn yn dod yn berthnasol yn awtomatig i Gymru gyfan.

Mae adran 17(3) o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar sut y cafodd y darpariaethau a dreialwyd eu gweithredu, a pha mor effeithiol oeddent o ran hybu lles plant. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn sgil cynnal gwerthusiad o’r ddau gynllun peilot, rwyf heddiw’n falch o allu cyflwyno copi o’r adroddiad gwerthuso gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 17(3) o’r Mesur.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i awdurdodau Sir Gaerfyrddin a Wrecsam ac i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru am eu gwaith caled wrth dreialu’r hawliau pwysig hyn sy’n cael eu rhoi i blant Cymru.

Gan fod casgliadau’r adroddiad gwerthuso yn gadarnhaol, rwyf wedi penderfynu dwyn ymlaen yr  hawliau a’r dyletswyddau newydd fel y byddant yn dod i rym ledled Cymru ym mis Ionawr 2015. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth, y canllawiau a’r cymorth y mae eu hangen arnynt  i gyflawni eu dyletswyddau newydd.