Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 24 Hydref 2012 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth) wedi'i ddiwygio. Mae'r agenda a'r papurau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru . Yn dilyn adolygiad o’r Cyngor Partneriaeth yn ystod 2011, cytunodd y Cyngor y dylid diwygio rhai o elfennau ei aelodaeth a’i ddulliau gweithredu. Bellach, mae'r aelodaeth yn dwyn ynghyd y gwasanaethau cyhoeddus ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, cynghorau cymuned, ac am y tro cyntaf y gwasanaeth iechyd. Mae amlder y cyfarfodydd ffurfiol wedi gostwng i un cyfarfod blynyddol yn gynnar yn yr hydref. Ond mae is-grŵp wedi'i sefydlu’n benodol i oruchwylio’r diwygio, a bydd yr is-grŵp hwnnw'n gallu cwrdd yn amlach, ac ar fyr rybudd, os bydd angen. Yr enw a roddir ar yr is-grŵp hwn yw Grŵp Cyflawni'r Diwygio. Mae strwythurau ariannol y Cyngor Partneriaeth wedi'u hailwampio hefyd, fel bod y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yn un sy'n fwy clir ac yn ychwanegu gwerth. 


Dyma aelodau'r Cyngor Partneriaeth ar ei newydd wedd:


  • Prif Weinidog Cymru
  • Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (Cadeirydd)
  • Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ 
  • Y Cwnsler Cyffredinol 
  • Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
  • Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
  • Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
  • Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
  • Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
  • Y Dirprwy Weinidog Sgiliau
  • Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Cynghorydd Bob Wellington (cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Leol ar gyfer ardal Gwent)
  • Y Cynghorydd Anthony Christopher (cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Leol ar gyfer ardal Cwm Taf)
  • Y Cynghorydd Neil Moore (cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Leol ar gyfer ardal Caerdydd a'r Fro)
  • Y Cynghorydd Ali Thomas (cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Leol ar gyfer ardal Bae'r Gorllewin)
  • Y Cynghorydd Jamie Adams (cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Leol ar gyfer ardal y Canolbarth a'r Gorllewin) 
  • Y Cynghorydd Dilwyn Roberts (cynrychiolydd ar ran Llywodraeth leol ar gyfer ardal y Gogledd) 
  • Y Cynghorydd Mel Nott (Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)
  • Y Cynghorydd Aaron Shotton (llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gyllid ac Adnoddau)
  • Y Cynghorydd Tudor Davies (yn cynrychioli'r Awdurdodau Tân ac Achub)
  • Y Cynghorydd Gwyn Hopkins (yn cynrychioli Awdurdodau'r Heddlu)
  • Mr Chris Martin (yn cynrychioli'r Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG)
  • Y Cynghorydd Mair Stephens (yn cynrychioli'r cynghorau cymuned)
  • Y Cynghorydd E Caerwyn Roberts (yn cynrychioli Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol) 


Yn ychwanegol, bellach mae'n bosibl i bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus allweddol – sef Swyddfa Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, TUC Cymru, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – fynd i'r cyfarfodydd fel sylwedyddion.


Prif gyfrifoldebau’r Cyngor Partneriaeth yw:

  • hybu trafodaethau rhwng Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Leol ar faterion sy'n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag Adrannau 72 a 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; a
  • chynnig atebolrwydd gwleidyddol ar y cyd am gamau i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus.


Bydd y Cyngor Partneriaeth yn caniatáu i ni gael y trafodaethau gwleidyddol ar y cyd y bydd eu hangen yn ystod y blynyddoedd nesaf, a bydd y trafodaethau hynny’n rhoi'r cyfle i ni  wneud rhai o'r penderfyniadau anodd y bydd gofyn i ni eu gwneud.   


Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gofyn i Weinidogion Cymru baratoi cynllun yn esbonio sut y byddant, wrth arfer eu swyddogaethau, yn cynnal ac yn hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru. Gofynnir i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar sut y cafodd y cynigion sydd wedi'u nodi yn y cynllun eu rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a chyflwyno copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 


Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2011-12 i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o'r meysydd lle y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio'n llwyddiannus â'i gilydd. 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, cafodd Cynllun Partneriaeth presennol Llywodraeth Leol ei gyhoeddi yn 2008. Rwy'n bwriadu ailwneud y Cynllun Llywodraeth Leol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, er mwyn iddo adlewyrchu'r sefyllfa bolisi gyfredol mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, ac adlewyrchu agenda'r Rhaglen Lywodraethu. Bydd y cynllun diwygiedig yn cael ei roi ar waith o Ebrill 2012 ymlaen, a bydd copi yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad.