Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi manylion dyraniadau’r Gronfa Cyfalaf a Gedwir yn Ganolog (CRC) ar gyfer 2012/13 a 2013/14 y cyfeiriais ati ddoe yn fy natganiad ar y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ddoe. Mae’r dyraniadau’n ymrwymo CRC o £43.6m yn ychwanegol yn 2012/13 a £43.7m yn 2013/14 ar draws 16 o brosiectau. Mae’r buddsoddiad hwn yn seilwaith Cymru’n dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi adferiad economaidd yng Nghymru; diogelu a gwella gwasanaethau rheng flaen ac amddiffyn pobl agored i niwed yn ein cymdeithas.
Mae’r dyraniadau hyn yn darparu cymorth ar draws sectorau ac yn sicrhau buddsoddiad parhaus mewn seilwaith ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnig ysgogiad byrdymor ac yn helpu i ddarparu’r amodau hirdymor ar gyfer twf.
Y prosiectau yw:
Mae £32m wedi’i ddyrannu i brosiectau addysg:
- Ynys Môn – bydd prosiect Ysgol y Bont yn cael £7.5m i adeiladu ysgol werdd newydd o’r radd flaenaf ar safle Ysgol Gyfun Llangefni a safle canolfan hamdden Plas Arthur yn Ynys Môn;
- Mae £4.05m wedi’i ddyrannu i brosiect Porth y Cymoedd a fydd yn creu ysgol newydd yn Nhon-du a fydd yn rhesymoli ac yn disodli dwy o ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal;
- Mae £14m wedi’i ddyrannu i resymoli’r ystâd ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn golygu gwaith ymestyn, ailwampio a gwaith adeiladu newydd ar gyfer ysgolion uwchradd yn rhanbarth Dinefwr;
- Mae £3m wedi’i ddyrannu i Ardal Ddysgu Merthyr a fydd yn uno chweched dosbarth pedair ysgol uwchradd Merthyr Tudful ac Ysgol Arbennig Greenfield â Choleg Merthyr Tudful, Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd;
- Mae £3.5m wedi’i ddyrannu i’r Ysgol Gymraeg newydd yn y Gogledd yn Wrecsam.
Mae £16.6m wedi’i ddyrannu i brosiectau iechyd, gan gefnogi ein hymrwymiad i wella gwasanaethau i gleifion a mynediad i’r gwasanaethau hynny:
- Mae £2.72m wedi’i ddyrannu i Ganolfan Adnoddau Ambiwlans Wrecsam;
- Mae £7.9m wedi’i ddyrannu i greu Canolfan Iechyd a Lles ar gyfer yr Ardal ar safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd;
- Trefnwyd bod £6m ar gael hefyd i Raglen Dechrau’n Deg Cymru Gyfan i ddarparu’r cymorth cyfalaf y mae ei angen i roi’r fenter bwysig hon yn ein Rhaglen Lywodraethu ar waith.
Mae £11.7m wedi’i ddyrannu i brosiectau trafnidiaeth, gan gefnogi cyflwyno’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol:
- Mae £7m wedi’i ddyrannu i brosiect y Rhwydwaith Cenedlaethol Casglu Data Traffig a fydd yn sicrhau bod offer parhaol yn cael ei osod er mwyn casglu data am draffig ar draws ffyrdd strategol Cymru i helpu i’w rheoli;
- Mae prosiect yr M4 J32 Coryton wedi cael £2.1m i wella diwyg presennol y gyffordd trwy ddarparu ffordd gyswllt uniongyrchol o’r ffordd ymuno ac ymadael i’r A470 i wella llif, diogelwch a thagfeydd trafig;
- Mae £2.6m wedi’i ddyrannu i brosiect Cadernid Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Gaeaf a fydd yn golygu gwelliannau i gadernid rhag tywydd garw ledled Cymru gan hwyluso cymorth i’r awdurdodau lleol trwy ddarparu cyfleusterau strategol i storio halen;
Mae £10m wedi’i ddyrannu i gefnogi cyflwyno fesul cam fynediad i Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf ar gyfer cartrefi a busnesau, gan gefnogi un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru.
Mae £15m wedi’i ddyrannu i gefnogi cyflenwad, dewis ac ansawdd tai yng Nghymru:
- Mae £10m wedi’i ddyrannu i brosiect Adfywio Tai y Rhyl;
- Mae £5m wedi’i ddyrannu i Gynllun Cronfa Benthyciadau Ailgylchadwy Cymru Gyfan a fydd yn sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu hailddefnyddio;
Mae £2m wedi’i ddyrannu i brosiectau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, i leihau’r risgiau i dai a busnesau sy’n agored i niwed yn rhanbarthau Colwyn Bay a Borth yng Ngogledd a Gorllewin Cymru.
Mae’n bwysig nodi y bydd pedwar o’r prosiectau a gymeradwywyd o dan Gam 1 o Gronfa CRC yn parhau yn ystod Cam 2, gan gynnwys gwasanaethau ar-lein i daliadau gweledig a gwelliannau i’r A470.
Mae’r arian cyfalaf a ddyrannwyd i’r 16 prosiect hyn yn cefnogi ein blaenoriaethau yn ein Rhaglen Lywodraethu, yn cefnogi ein Cyllideb Twf a Swyddi ac yn cynnig hwb mawr i ddiwydiant adeiladu Cymru.