Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 12 Rhagfyr mynychais Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd) yn Llundain.  Cafodd y JMC (EN) ei gadeirio gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol. Atodir y communiqué.

Rhoes yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd  ddisgrifiad o'r negodiadau a ddaeth i ben â chytundeb ar Gam un o'r trafodaethau.  Mae Llywodraeth y DU yn hyderus y bydd y Cyngor Ewropeaidd yn cytuno'n nes ymlaen yn yr wythnos fod cynnydd digonol, fel y'i pennir gan briff negodi'r UE wedi'i wneud a bod y ffordd yn glir i drafodaethau rhan 2 ddechrau. Adroddwyd ar delerau cytundeb cam 1 yn eang a nodwyd ymateb cyffredinol Llywodraeth Cymru yn Natganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog  i'r Cynulliad hwn yn gynharach yr wythnos hon.

Ailadroddais groeso Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynnydd sydd wedi'i wneud ar Gam 1.  Nodais fod Llywodraeth Cymru'n arbennig o falch ynghylch yr ymrwymiadau i gadw'r ffin feddal yn Iwerddon gan gadw trefniadau cyffredin yr un pryd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Buom yn glir erioed na ddylid cytuno ar unrhyw drefniadau sy'n peri anfantais i borthladdoedd Cymru a llwybrau croesi i Iwerddon o'u cymharu â'r rhai mewn rhannau eraill o'r DU.

Pwysleisiais fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gadw mynediad llawn a dirwystr i'r Farchnad Sengl ac i barhau'n rhan o Undeb Tollau â'r UE.  Rydym o'r farn mai hon yw'r ffordd fwyaf clir a rhesymegol i sicrhau buddiannau busnes yng Nghymru a'r DU gyfan.  Rydym o'r farn bod cryfder yr achos hwn, yr ydym wedi'i wneud yn gyson ers cyhoeddi ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru, yn cael ei danategu gan y safbwynt y cytunwyd ag ef gan Lywodraeth y DU yng Ngham 1.    
 
Mae Llywodraeth Cymru'n falch bod y DU a'r UE yn derbyn y rhesymeg dros gyfnod pontio ar ôl i'r DU ymadael yn swyddogol â'r UE.  Unwaith eto mae hwn yn safbwynt yr ydym wedi dadlau drosto yn gyson, er ein bod o'r farn mai camgymeriad yw cyfyngu'n artiffisial ar hyn i gyfnod o ddwy flynedd.  Rydym yn credu, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, y bydd trafodaethau manwl ar fasnach yn cymryd yn hwy ac mai creu cymaint o sicrwydd i fusnes â phosibl ddylai yrru'r cyfnod pontio.  Rydym yn credu ymhellach fod perygl i'r DU gael ei rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol mewn negodiadau os caiff ei chlymu i ddyddiad pontio anhyblyg.

Bydd Cam 2 o’r negodiadau'n pennu perthynas Llywodraeth y DU â'r UE yn y dyfodol.  Mae'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru'n a Chynulliad  Cenedlaethol Cymru yn rhan annatod o'r trafodaethau hyn ac rydym yn gyfan gwbl glir bod rhaid i weinyddiaethau datganoledig fynd ati i baratoi safbwyntiau negodi'r DU a'r negodiadau eu hunain.  Mae hyn yn hollbwysig er mwyn cynrychioli materion datganoledig yn briodol ac yn barchus ond hefyd er mwyn i'r UE fod yn sicr bod tîm negodi'r UE yn cynrychioli buddiannau'r DU gyfan (gwelsom yr wythnos diwethaf paham y mae hyn mor hanfodol).  Credaf fod y mecanwaith JMC (E) presennol yn cynnig templed y gallai fod yn ddefnyddiol ei ddilyn.  Cynhelir trafodaethau pellach ar lefel swyddogol i fwrw ymlaen â'r mater o sut orau y gellir integreiddio gweinyddiaethau datganoledig â negodiadau.
 
Yn dilyn cyfarfod yr wythnos diwethaf â'r Gweinidog dros Fewnfudo, amlinellais safbwynt Llywodraeth Cymru'n ar ymfudiad yn yr UE, sy'n hanfodol i'n heconomi yn ein barn ni.  Ein safbwynt ni yw y dylai anghenion yr economi yrru polisi a bod symudedd yn Ewrop sy'n gysylltiedig â chyflogaeth er lles Cymru.

Mae cynnydd wedi'i wneud ar fframweithiau'r DU, ac fe groesewais hyn.  Cytunwyd ar yr egwyddorion craidd ac mae swyddogion wedi gwneud gwaith cwmpasu defnyddiol.  Mynegais bryder, yng ngoleuni rhai awgrymiadau ynghylch ymagweddau gwahanol ar gyfer Gogledd Iwerddon, na all yr ymagwedd hon weithio ond os caiff ei thanategu gan ymrwymiad ar y cyd i ystyried bod y fframweithiau’n rhwymo dros y tymor hwy. Mae cytuno ar brosesau llywodraethu ar gyfer gweithredu, adolygu a diweddaru fframweithiau'n rhan hanfodol o'r gwaith sy'n gorfod digwydd yn awr.  

Yn olaf, roeddwn yn glir na all Llywodraeth Cymru argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil yr EU (Ymadael) oni chaiff materion ynghylch pwerau datganoledig Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eu datrys mewn diwygiadau y dylid cytuno arnynt cyn i'r Bil ymadael â Thŷ'r Cyffredin.  Cytunodd Llywodraeth y DU y dylid cael trafodaeth benodol bellach ar lefel swyddogol ynghylch atebion posibl.