Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd
Rwyf wedi penderfynu tynnu enw Gŵydd Dalcenwen yr Ynys Las oddi ar Atodlen 2 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (DBGChG) 1981, gan ei gwneud yn drosedd (dan adran 1 DBGChG 1981) lladd neu gymryd (neu anafu wrth geisio lladd) unrhyw Ŵydd Dalcenwen yr Ynys Las y tu allan i’r tymor caeedig ar gyfer yr aderyn hwnnw.
Dan adrannau 1 a 2 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (DBGChG) 1981, mae eisoes yn anghyfreithlon saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las yn ystod y tymor caeedig yng Nghymru a Lloegr.
Mae cefndir y penderfyniad hwn yn ymwneud â chwyn dan Gytundeb Adar Dŵr Affrica-Ewrasia (AEWA). Roedd y gŵyn yn honni nad oedd y DU wedi bodloni ei rhwymedigaethau trwy fethu â gwahardd hela Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las. Yn ymateb Llywodraeth y DU i’r gŵyn, ni dderbyniodd y DU yr honiadau’n llwyr ac, o ran Cymru, nododd yr ymateb fod y moratoriwm gwirfoddol ar saethu Gwyddau Talcenwyn yr Ynys Las yn gweithio’n effeithiol, a bod yr holl glybiau hela adar dŵr yng Nghymru yn cadw ato.
Fodd bynnag, ym mis Mehefin eleni gwrthododd Pwyllgor Sefydlog AEWA ddadleuon y DU, gan ddod i’r casgliad nad oedd moratoriwm gwirfoddol yn ddigonol o ran bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol y DU dan AEWA.
Felly, er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau rhyngwladol yng Nghymru, rwyf wedi penderfynu y byddwn yn tynnu enw Gŵydd Dalcenwen yr Ynys Las oddi ar Atodlen 2 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, gan wahardd yr arfer o ladd neu gymryd yr adar hyn. Deallaf fod Gweinidogion yn Lloegr wedi dod i’r un casgliad, ac y bydd Defra yn ysgrifennu yn yr un modd at randdeiliaid yn Lloegr.
Ni cheir unrhyw gynlluniau i gyflwyno newidiadau eraill i Atodlen 2, o ran ychwanegu na dileu unrhyw rywogaethau eraill. Rhagwelaf y bydd y newid hwn yn dod i rym cyfreithiol yn ystod hydref 2019.